A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Y diffiniad o dipio slei yw gadael gwastraff yn anghyfreithlon ar unrhyw dir neu briffordd (gyda neu heb ganiatâd perchennog y tir). Gall amrywio o ran maint o un llond sach bin o wastraff i ddympio gwastraff adeiladu a dymchwel ar raddfa fawr.
Mae tipio slei yn groes i Adran 33 Deddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990, a gall effeithio ar ansawdd amgylcheddol ardal a denu ac annog troseddau amgylcheddol eraill.
Mae Deddf Cymdogaethau Glân 2005 wedi cynyddu gosb uchaf am droseddu i £50,000 a / neu 12 mis o garchar. Gall rhai sy'n tipio ar y slei hefyd gael dirwy benodol o £300.
Mae Deddf Cymdogaethau Glân 2005 hefyd yn rhoi grym i'r Awdurdod i orchymyn fod perchnogion tir yn gwaredu gwastraff a dipiwyd ar y slei oddi ar y tir, neu gall fynd ar y tir i gael gwared o'r gwastraff ei hun ac adfer y costau wedi hynny.Â
Ewch i wefan Taclo Tipio Cymru http://www.flytippingactionwales.org/cy/ sy'n rhoi cyngor i fusnesau, deiliaid tai a pherchnogion tir.
Mae Taclo Tipio Cymru yn fenter drwy bartneriaeth sy'n cael ei noddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'i chydlynu gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
Cyfeiriad E-bost: highways.and.waste@powys.gov.uk
Teleffon: 0845 602 7035
Ffacs: 01597 827276
Cyfeiriad:
Desg Gymorth Gwasanaethau Lleol a Thechnegol
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA
Gweld manylion cyswllt Siaradwr Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth yma
