A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Fel Cyngor, rydym ar hyn o bryd yn datblygu cynllun lliniaru llifogydd er mwyn cwtogi'r risg llifogydd o'r Afon Enig yn Nhalgarth.
Mae Talgarth wedi profi llifogydd difrifol yn y gorffennol diweddar. Mae cofnodion hanesyddol, profiadau personol a modelu cyfrifiadurol manwl yn nodi bod dros 84 o fangreoedd yn Nhalgarth mewn perygl o ddioddef llifogydd o Afon Enig, gyda'r risg yn amrywio o leoliad i leoliad.Â
Rydym ar hyn o bryd yn cwblhau adroddiad sy'n cynnwys dewisiadau a argymhellir i gwtogi ar risg llifogydd i fangreoedd o Afon Enig. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru i'w gymeradwyo.
Ar ol cymeradwyo'r adroddiad, symudir ymlaen gyda dyluniad manwl y cynllun. Cyflwynir argymhellion y cynllun terfynol i drigolion lleol mewn arddangosfa a gynhelir yn Neuadd y Dref Talgarth. Bydd manylion pellach ynglyn a dyddiad yr arddangosfa hon ar gael yn nes at yr amser.Â
Amcangyfrifir y bydd cost y cynllun tua £600k. Cyllidir y cynllun gan Gyngor Sir Powys, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Cystadleurwydd yr Undeb Ewropeaidd.
Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf yn y tudalennau diweddaru, sydd ar gael i'w lawrlwytho isod:
|
|
2.4 M |
Dylai gwaith adeiladu ar ail gam cynllun lliniaru llifogydd yn Ne Powys fod wedi gorffen erbyn diwedd mis Mai (2013).Â
Dechreuodd y gwaith ar Gynllun Lliniaru Llifogydd Talgarth ym mis Mawrth, ac ar ôl gorffen y gwaith, bydd yn lleihau’r perygl o ddwr yn gorlifo i eiddo yn Nhalgarth o Afon Ennig. Ariannir y cynllun o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Sir.
Mae’r gwaith ar fynd ar hyn o bryd ar hyd Bell Street, ger Pont y Seilam a Theras Aberenig, a phont droed Cynog ar Gwm Rhyd. Cwmni Alun Griffiths (Contractors) Ltd sy’n gwneud y gwaith ar ran y Cyngor.
Mae’r gwaith wedi cynnwys adeiladu muriau amddiffyn rhag llifogydd, gosod gatiau llifogydd a gwella’r system draenio ar y ffordd gerbydau. Mae’r gwaith o gynllunio’r cam olaf a fydd yn canolbwyntio ar ran isaf yr Ennig i lawr o Bont y Twr, yn digwydd ar hyn o bryd.
Gorffennwyd y cam cyntaf i fyny’r afon o Bont Penybont i’r de o Dalgarth, yn 2012.
I wybod mwy am unrhyw agwedd o’r cynllun, anfonwch e-bost at talgarth.floodscheme@powys.gov.uk neu ffoniwch 0845 607 6060 a gofyn am Dîm Dylunio Ardal y De.
Os hoffech chi siarad â rhywun am unrhyw agwedd o'r cynllun, cysylltwch â'r :
Tim Dylunio Ardal y De
Ffôn: 0845 607 6060 est. 2219 / 2368
E-bost: talgarth.floodscheme@powys.gov.uk
Hydref 2010: Cyflwyno Adroddiad Gwerthuso'r prosiect
Gaeaf 2010: Dechrau ar y dyluniad manwl
2011-2013: Dechrau ar yr Adeiladu