Awyr Agored Powys

Gwasanaeth Addysg Awyr Agored Cyngor Sir Powys yw AWYR AGORED POWYS ac mae'n cyflwyno amrywiaeth eang o raglenni a gweithgareddau awyr agored o safon uchel i drigolion yr ardal ac ymwelwyr â hi. 
Awyr Agored Powys

Rydym yn darparu sawl gwahanol fath o gwrs i'n gwahanol gleientiaid - o raglenni datblygiad personol a chymdeithasol i geisio dysgu hwylio neu ddringo mynydd.

Ysgolion Powys yw prif ddefnyddwyr ein cyfleusterau yn ystod y misoedd cynhesaf. Deuant atom naill ai ar gyrsiau undydd neu ar gyrsiau gweithgareddau preswyl.

Weddill y flwyddyn, byddwn yn cynorthwyo grwpiau ieuenctid, teithiau gwobrwyon Dug Caeredin a phrosiectau Addysg Amgen, neu byddwn yn cynnig lletyau i grwpiau sydd am fanteisio ar y mynyddoedd a'r coedwigoedd o'n cwmpas.

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith mai canolfan awyr agored ydym yn hytrach na gwesty. Disgwylir i'n holl westeion, boed hen neu ifanc, ymgymryd â chyfrifoldeb personol am eu diogelwch eu hunain a diogelwch yr offer, yn ogystal ag am yr amgylchedd a'r ganolfan ei hun.

Mae ein gwasanaeth yn ymdrechu i gynnal delwedd broffesiynol a chyfeillgar. Fel tîm bychan, gallwn gynnig profiad sydd wedi'i lunio'n benodol, lle gall unigolion ddatblygu ac anturio.  

Am y newyddion diweddaraf...

Rydym ar Facebook a byddwn yn hysbysebu ein cyrsiau, digwyddiadau, newyddion a chloncian cyffredinol yno'n rheolaidd er mwyn i chi gadw mewn cysylltiad.

Cliciwch ar Powys Awyr Agored a chliciwch i'n hoffi ni!