Er bod Gemau Olympaidd Llundain 2012 wedi gorffen bellach, mae cyfle o hyd i ferched ym Mhowys fynd ati i ymuno â Gwersyll Aml-Gamp yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu.
O 28 Awst i 30 Awst gall merched rhwng 9 a 14 oed ar 1 Medi 2012 gymryd rhan mewn sesiynau hanner diwrnod i chwarae pêl-droed, dewis o gampau raced, canwio, rygbi, campau milwrol ac athletau ar y trac a’r maes.
Os yw llwyddiant merched Tîm Prydain wedi ysbrydoli rhywun y gwyddoch chi amdani yn ystod yr wythnosau diwethaf hyn, neu os cawsoch chi eich ysbrydoli i dreulio amser yn yr awyr agored yn ystod gwyliau’r haf, yna gallai’r sesiynau blasu hyn fod yn ddelfrydol.
Bydd hyfforddwyr profiadol o glybiau lleol yn gofalu am y sesiynau, ac mae croeso i ferched o bob gallu.
Cost y gwersyll fydd £25 am y tri diwrnod, o 9.30am i 4pm, a bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn crys-t am ddim.
“ Mae hwn yn gyfle gwych i ferched roi cynnig ar chwaraeon newydd y maent wedi’u gwylio yn ystod y Gemau Olympaidd, efallai,” meddai Matt James, sy’n Swyddog Datblygu Chwaraeon gyda Chyngor Sir Powys.
“Gydag amrywiaeth mor eang o weithgareddau dros y tri diwrnod, y gobaith yw y bydd y merched sy’n cymryd rhan yn dod o hyd i gamp yr hoffent barhau â hi am flynyddoedd.”
I gael rhagor o wybodaeth neu i gadw lle, cysylltwch â Matt James ar 01874 612335 neu anfonwch e-bost at matthew.james1@powys.gov.uk.