A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Bydd disgyblion ardal Ystradgynlais yn symud i’w hysgolion newydd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf (gan ddechrau’r mis nesaf) wrth i fuddsoddiad o £37miliwn mewn cyfleusterau addysg a hamdden yn yr ardal dynnu tua’i derfyn.
Mae Cyngor Sir Powys, gyda chymorth sylweddol oddi wrth Lywodraeth Cymru, wedi adeiladu pedair ysgol gynradd newydd yn y dref yn ogystal â chwblhau camau terfynol y gwelliannau i addysg ac ‘ochr sych’ y cyfleusterau hamdden ar gampws ysgol uwchradd y dref. Dyma’r buddsoddiad ariannol unigol mwyaf erioed y cyngor mewn gwasanaethau ysgolion a hamdden.
Bydd tair o’r pedair ysgol gynradd yn agor i’r disgyblion Ddydd Llun 10 Medi. Er y bydd y rhan fwyaf o ysgolion yn mynd yn ôl i’r ysgol yr wythnos flaenorol, bydd y disgyblion yn yr ysgolion hyn yn Ystradgynlais yn dychwelyd fymryn yn hwyrach er mwyn i’r athrawon ac aelodau eraill o staff drosglwyddo ac ymsefydlu yn y cyfleusterau newydd.
Bydd y bedwaredd ysgol gynradd, sef Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr, yn parhau i weithredu o’r ysgolion presennol, sef Ynysgedwyn a Chwm-twrch, yn ystod tymor yr hydref, cyn dechrau symud i’r safle newydd Ddydd Llun 14 Ionawr. Bydd yr ysgol hon yn dechrau tymor yr hydref ar 3 Medi.
Bydd ysgol uwchradd y dref, Ysgol Maesydderwen, yn agor i ddisgyblion Ddydd iau 6 Medi, i ganiatáu dau ddiwrnod ychwanegol i’r staff ymsefydlu yn yr adeiladau newydd.
Dywedodd y Cyngh Myfanwy Alexander, Aelod Portffolio’r Cabinet ar gyfer Addysg a Hamdden: "Mae’r datblygiadau yn ardal Ystradgynlais yn rhai cyffrous iawn i’r cyngor, i’r cymunedau, ac yn anad dim i’r bobl ifanc a fydd yn gallu dysgu mewn amgylchedd modern, priodol a fydd yn eu helpu i gyrraedd eu potensial."
Bydd y contractwyr Wilmott-Dixon yn trosglwyddo allweddi’r adeiladau newydd (ar wahân i Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr, y disgwylir iddi fod yn barod yn ddiweddarach y tymor yma) i’r Cyngor yn ystod yr wythnos i 10 diwrnod nesaf.
Bydd pob un o’r ysgolion cynradd newydd yn gartref i rhwng 180 a 300 o ddisgyblion, a safle pob ysgol yn ceisio cyrraedd statws ‘Rhagoriaeth’ BREEAM, sy’n dangos iddynt gael eu hadeiladu mewn modd mor gynaliadwy â phosibl.
Datblygwyd yr ysgolion fel rhan o raglen Moderneiddio Ysgolion Cyngor Sir Powys ac maent yn enghreifftiau o adeiladau ysgolion yr 21ain ganrif sy’n cael eu darparu i blant yr ardal.
Cynhaliwyd yr adolygiad a ddechreuodd yn 2008 trwy fwrdd prosiect ardal lleol, ac roedd gan bob un o’r 10 ysgol bresennol, cynghorwyr lleol a chynrychiolwyr asiantaethau a oedd yn bartneriaid oll yn aelodau o’r bwrdd. Cynhaliodd y bwrdd prosiect adolygiad o’r lle a oedd ar gael yn adeiladau presennol ysgolion cynradd y gymuned.
Argymhellodd yr adolygiad hwn y dylai’r 10 ysgol gynradd gau ac y dylid codi pedair ysgol newydd yn eu lle. Roedd angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol ar yr ysgolion ac roedd gormod o leoedd gwag yn y rhan fwyaf ohonynt. Mae’r awdurdod wedi dechrau ar adolygiadau tebyg mewn rhannau eraill o’r sir (yn nalgylchoedd Ysgolion Uwchradd Gwernyfed, John Beddoes, Llanidloes a Machynlleth).
Yn ogystal â darparu addysg gynradd ac uwchradd i’r brif ffrwd hefyd yn darparu cyfleusterau arbenigol i blant a dysgwyr gydag anghenion dysgu a chorfforol ychwanegol.
Mae’r holl dimau athrawon a staff ategol bellach wedi’u penodi a’r penaethiaid canlynol fydd yn eu harwain:
- Huw Rees yn Ysgol Bro Tawe
- Judith Hickey yn Ysgol Golwg y Cwm
- Gwyn Williams yn Ysgol y Cribarth
- Emma Rofe yn Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr
Yn Ysgol Maesydderwen, sef ysgol uwchradd Ystradgynlais, bydd yr adeiladau newydd yn darparu amrywiaeth eang o gyfleusterau, gan gynnwys ystafelloedd gwyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg a chyfrifiaduron, ynghyd â llyfrgell, ystafelloedd gweinyddol, neuadd amlbwrpas, stiwdio gweithgareddau ac ardal ffitrwydd.
Yn ogystal â’r buddsoddiad mewn addysg, mae’r tîm pêl-droed lleol, Crwydriaid y Cwm (Cwm Wanderers) hefyd wedi cael budd o’r prosiect. Mae gan y clwb gae pêl-droed a thy clwb newydd wedi i’r hen safle gael ei ddynodi’n fan i godi Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr. Mae adeiladau’r cyfleuster yma i’r clwb chwaraeon wedi golygu y bydd yr ysgol yn parhau i redeg ar ei safle presennol tan ar ôl y Nadolig, pan fyddant yn symud i’w cartref newydd.