A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Archif

16.08.12 15:26 Age: 282 days

Canlyniadau Lefel A rhagorol i ddisgyblion Powys

Mae disgyblion Powys wedi llwyddo i gael canlyniadau lefel A rhagorol yn arholiadau CBAC.

Roedd dros bump o bob 10 canlyniad (51%) yn raddau A*, A a B, gyda 5% yn radd A* gyda 19% pellach yn radd A. Llwyddodd bron i bawb oedd wedi sefyll arholiad lefel A ym Mhowys i basio (99%).

Mae canlyniadau 2012 ar gyfer y graddau uchaf A*-A ychydig yn is na 2011 sy’n adlewyrchu’r tuedd ar gyfer Cymru gyfan.

Fodd bynnag, roedd y canlyniadau ar gyfer y graddau A*-C a A*-E tipyn yn uwch na’r blynyddoedd diwethaf ac unwaith eto tipyn yn uwch na’r rheiny ar gyfer Cymru gyfan.

Mae canlyniadau CBAC Powys ar gyfer y graddau A*-C 2% yn uwch nag yn 2011 ac ychydig yn fwy na 4% yn uwch na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer 2012 (ar draws pob bwrdd) sy’n llwyddo i gynnal y cynnydd gwych a welwyd ers 2001.

Mae nifer y lefelau A CBAC a gymerwyd yn ysgolion Powys wedi disgyn o 1,340 yn 2011 i 1,241 yn 2012 sy’n cynrychioli gostyngiad o 7%. Yn 2011, roedd y rhai oedd yn sefyll arholiadau CBAC yn cynrychioli tua 65% o gyfanswm y rhai oedd yn sefyll arholiadau lefel A ym Mhowys.

Dywedodd Stephen Rogers, Pennaeth Ysgolion Cyngor Sir Powys: “Mae’r rhain yn ganlyniadau gwych sy’n adlewyrchu’n glir ymroddiad a gwaith caled y disgyblion ac athrawon yn ysgolion Powys.

"Llongyfarchiadau gwresog iawn a llwyr haeddiannol i’r holl bobl ifanc yn ogystal â phawb sydd wedi bod yn eu cefnogi trwy gydol eu hamser yn yr ysgol. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i bob un ohonynt ar gyfer y dyfodol."


RSS