Bydd trigolion Y Trallwng a fydd yn manteisio ar y gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu newydd o fin y ffordd yn derbyn eu blychau newydd a’r bin ar olwynion o’r wythnos hon (w/c 6 Awst).
Bydd aelwydydd yn derbyn tri blwch ailgylchu – un coch ar gyfer caniau a phlastig, un glas ar gyfer papur a chardfwrdd ac un lliw acwa ar gyfer gwydr. Bydd bin du ar olwynion hefyd ar gyfer sbwriel nad oes modd ei ailgylchu. Bydd y trigolion hynny sydd hefyd wedi gofyn am set o gadis gwastraff bwyd yn derbyn y rhain tua’r un amser.
Mae disgwyl i’r blychau hyn gyrraedd aelwydydd dros y pedair wythnos nesaf cyn i’r cynllun gychwyn ar 3 Medi. Mae’n bosibl na fyddwch yn derbyn y blychau a’r bin ar yr un pryd, ond ddylai’r cyfan gyrraedd cyn y dyddiad hwn.
Bydd y gwasanaeth newydd yn cynnwys casglu deunydd ailgylchu bob wythnos a sbwriel arall bob pythefnos. Byddwch hefyd yn derbyn calendr sy’n nodi beth sy’n cael ei gasglu ar ba wythnos, a hefyd llyfryn ailgylchu cynhwysfawr.
Dywedodd Steve Holdaway, Pennaeth Gwasanaethau Lleol ac Amgylcheddol Cyngor Sir Powys: “Trwy wneud y broses ailgylchu mor hawdd â phosibl i drigolion, gallwn atal gwastraff rhag cyrraedd safleoedd tirlenwi a’n helpu ni gyrraedd y targed o 52% a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
“Mae’r blychau hyn wedi bod yn hwb mawr i’n helpu ni gyrraedd ein cyfradd ailgylchu. Rhaid gwneud mwy i godi’r ffigwr hwn dros y misoedd nesaf, ond bydd cyflwyno’r gwasanaeth newydd yn Y Trallwng yn gwneud gwahaniaeth mawr.
“Rwy’n gobeithio y bydd trigolion y dref yn bwrw ati i ailgylchu cymaint â’r trigolion mewn ardaloedd eraill, ac rwy’n siwr y gwnân nhw.”