Newidiwyd lleoliad cyfarfod lle bydd cynghorwyr Powys yn cael eu briffio ynghylch y llwybr cysylltiadau a ffefrir gan y Grid Cenedlaethol yng Nghanolbarth Cymru yn sgil pryderon ynghylch diogelwch y cyhoedd.
Mae’r cyfarfod yr oedd y Grid Cenedlaethol yn bwriadu’i gynnal yn Neuadd y Dref, Y Trallwng Ddydd Mercher (1 Awst) rhwng 5 a 7pm bellach yn cael ei gynnal yn adeilad Neuadd Maldwyn Cyngor Sir Powys yn y dref, ar gais yr heddlu.
Dywedodd y Cynghorydd David Jones, Arweinydd Gweithredol Cyngor Sir Powys, “Mae Neuadd y Dref yn Y Trallwng wrthi’n cael ei hailwampio, felly mae’r heddlu wedi cynghori’r Grid Cenedlaethol i symud y cyfarfod er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.
“Mae’r cyngor sir wedi cytuno bod modd cynnal y cyfarfod yn Neuadd Maldwyn ar Ffordd Hafren, Y Trallwng. Bydd nifer y mannau parcio yn gyfyngedig, ac rydym yn cynghori’r rheiny sy’n dod i’r cyfarfod i ddefnyddio’r mannau parcio talu ac arddangos yn y dref.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Grid Cenedlaethol: “Yn dilyn cyngor yr heddlu rydym wedi cytuno y bydd y cyfarfod briffio’n cael ei symud o ystafell gyfarfod y Gyfnewidfa Yd yn Neuadd y Dref i adeilad Cyngor Sir Powys.
“Rydym yn sylweddoli ein bod wedi newid y man cyfarfod ar fyr rybudd, ond mae diogelwch y cyhoedd yn holl bwysig. Rydym yn ddiolchgar i’r cyngor sir am gytuno i ddarparu rhywle i ni gyfarfod gyda chyn lleied o rybudd.”
Dywedodd llefarydd ran Heddlu Dyfed Powys: “Oherwydd nifer y bobl rydym yn disgwyl iddynt ddod i’r cyfarfod yma, y gwaith ailwampio presennol yn Neuadd y Dref, a phryderon cysylltiedig ynghylch diogelwch y cyhoedd, fe wnaethon ni gynghori y dylid newid lleoliad y cyfarfod. Mae cydweithrediad Cyngor Sir Powys yn dangos eu bod yn ymrwymedig i ddiogelwch y cyhoedd.”