A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Archif

19.07.12 08:38 Age: 309 days

Cydnabod gwasanaeth hir Colin

Cyflwyniad am wasanaeth hir

Steve Holdaway (ar y dde) yn cyflwyno tystysgrif am ei wasanaeth hir i Colin Morris. Yn y llun hefyd mae Brent Campbell.

Mae dyn o Raeadr Gwy a roddodd dros ddeugain mlynedd o wasanaeth cyhoeddus wedi cael ei gydnabod yn swyddogol gan Gyngor Sir Powys.

Ymddeolodd y Gweithiwr Gwastraff, Colin Morris, ym mis Mai ar ôl 42 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus yn gweithio i'r cyngor sir a'r cyn gynghorau dosbarth. Roedd Colin yn gweithio o ddepo'r cyngor yn Rhaeadr.

I gydnabod ei wasanaeth hir, cafodd Colin ei wahodd i fynychu cyflwyniad yn Neuadd y Sir yr wythnos hon (dydd Mercher 18 Gorffennaf), lle diolchwyd iddo yn bersonol a lle cyflwynwyd tystysgrif iddo am ei wasanaeth gan Bennaeth y Gwasanaethau Lleol ac Amgylcheddol, Steve Holdaway, a Rheolwr yr Ardal Amgylchedd Leol, Brent Campbell.

"Mae deugain mlynedd yn gamp aruthrol a hoffem ddiolch i Colin am ei gyfraniad i waith y cyngor dros y blynyddoedd. Roedd yn aelod staff poblogaidd iawn a bydd ei gydweithwyr a'r cyhoedd a wasanaethodd yn gweld ei golli'n fawr," meddai Steve Holdaway.

"Rydym i gyd yn dymuno'r gorau i Colin yn ystod ei ymddeoliad."


RSS