Cafwyd cipolwg arbennig yn y Sioe Fawr ar ap newydd i hyrwyddo llwybrau cerdded yng Nghanolbarth Cymru.
Mae adran Dwristiaeth Cyngor Sir Powys wrthi’n datblygu cymhwysiad smartphone arloesol y gall ymwelwyr ei ddefnyddio wrth fynd i edrych ar gefn gwlad Canolbarth Cymru.
Dywedodd y Cyngh Graham Brown, Aelod Portffolio Cyngor Sir Powys ar gyfer Twristiaeth: “Mae’r teithiwr arferol yn dibynnu fwyfwy ar dechnoleg yn ystod ei ymweliad, boed hynny’n gwirio rhagolygon y tywydd, yn darganfod ty bwyta, neu’n defnyddio mapiau.
“Mae dros 33 miliwn o smartphones yn cael eu defnyddio yn y DU yn unig. Mae’n bwysig ein bod yn darparu gwybodaeth angenrheidiol i ymwelwyr trwy ddefnyddio technoleg smartphones.”
“Mae cymwysiadau smartphone yn ffordd wych o ymgysylltu ag ymwelwyr â’r ardal, o hybu atyniadau a llwybrau lleol a chyfoethogi’r ymweliad. Mae apps yn fwy hygyrch ac yn haws eu defnyddio na chynnwys gwefan pan fyddwch ar daith, a gallant wneud y llwybrau yn fwy byw.”
Mae’r ap yn cael ei ddatblygu fel rhan o -SPEED , sef prosiect y mae ERDF INTERREG IVC yn ei ariannu, sy’n rhannu arfer gorau gyda phartneriaid Ewropeaidd. Disgwylir iddo fod ar gael i’r cyhoedd o hydref 2012 ymlaen.
Gall busnesau twristiaeth Powys hysbysebu yn rhad ac am ddim ar yr ap hyd ddiwedd Rhagfyr 2012. I fanteisio ar y cyfle cyffrous yma, cysylltwch â Hazel Bowen trwy anfon e-bost ati i hazel.bowen@powys.gov.uk neu drwy ffonio 01874 6123124 (Dydd Llun - Dydd Gwener, 8.30am-3pm).