Powys yn croesawu Cymal Chwech yn Nhaith Prydain Ddydd Gwener 14 Medi.
Bydd Taith Prydain yn dychwelyd i Bowys am y drydedd flwyddyn yn olynol fis Medi, wrth i’r Trallwng groesawu dechrau Cymal Chwech ras feiciau broffesiynol fwyaf Prydain.
Yn dilyn llwyddiant Cymal Cymru'r llynedd, bydd y drefn yn cael ei hailadrodd, a Chastell Powis sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn darparu cefndir ysblennydd i ddechrau un o gymalau anoddaf y ras.
Bu Luke Grivell-Mellor o Rapha Condor Sharp a buddugwr Taith Prydain ym 1955 Tony Hewson wrthi’n helpu i lansio’r cymal yng Nghastell Powis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r ddau’n byw’n lleol.
Dywedodd y Cyngh. Graham Brown, Aelod Portffolio’r Cabinet â chyfrifoldeb am Adfywiad a Diwylliant “Rydym wrth ein bodd fod y ras yn dychwelyd i Bowys am y drydedd flwyddyn yn olynol.
“Y digwyddiad yma yw’r achlysur seiclo enwocaf yn y wlad, ac mae’n cynnig cyfle gwych i frolio’r sir. Roedd y ddau achlysur cyntaf yn llwyddiant mawr, a daeth miloedd o ymwelwyr i Bowys, gan ychwanegu hwb derbyniol iawn i’r economi."
“Rydym wedi dylunio llwyfan ardderchog ar gyfer cymal Cymru eleni, i gychwyn beth fydd yn ein barn ni yn dri diwrnod caled iawn i feicwyr Taith Prydain,” meddai Mick Bennett, Cyfarwyddwr y Ras
“Mae’n bosibl mai dechrau’r ras yng Nghastell Powis fydd un o’r prydferthaf yn y byd seiclo proffesiynol, ond ’dyw hynny ddim yn tanseilio’r ffaith y bydd y daith yn un heriol iawn a fydd yn chwarae rhan bwysig yn y frwydr i ennill Siersi Aur IG Markets y sawl sydd ar y blaen.”
Bydd beicwyr yn gadael Castell Powis am 10.15 Ddydd Gwener 14 Medi, gan deithio o amgylch canol tref Y Trallwng cyn mynd ar eu hynt 189.6 cilometr trwy Ganolbarth Cymru i’r pen draw yng Nghaerffili.
Ar eu ffordd drwy Bowys, bydd bron i 100 o feicwyr gorau’r byd yn teithio trwy Drefaldwyn, Y Drenewydd (lle cychwynnodd y cymal yn 2010), Llandrindod, Llanfair-ym-Muallt ac Aberhonddu cyn mynd i’r afael â dringfa Brenin y Mynyddoedd (King of the Mountains) ym Mannau Brycheiniog i gyrraedd De Cymru.
Bydd ffyrdd cyfarwydd Taith Prydain 2010 a 2011 yn mynd â’r ras trwy Bowys i Lanfair-ym-Muallt cyn i’r daith eleni dywys y beicwyr dros fynyddoedd Epynt ar gyfer dringfa King of the Mountains SKODA yng Nghwm Owen, ar hyd ffordd B5420 Capel Uchaf o Lanfair-ym-Muallt i Aberhonddu Builth, sy’n ychwanegu her at lwybr Cymal Chwech.