A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Archif

16.07.12 09:04 Age: 308 days

Calon Werdd y Sioe

Green Heart image

.

Bydd cyfle i ymwelwyr â’r Sioe Fawr yr wythnos nesaf fwynhau gwledd o weithgareddau gan y Sir Nawdd.

Sir Frycheiniog yw Sir Nawdd y Sioe am 2012 ac mae Cyngor Sir Powys wedi trefnu rhaglen brysur o weithgareddau.

Bydd modd i ymwelwyr flasu bwydydd a diodydd lleol a dod i wybod am deithiau cerdded ac atyniadau i dwristiaid yn yr ardal. Hefyd bydd modd mynd ar daith beic rhithwir o amgylch Sir Frycheiniog, cael prawf pwysau gwaed a cholesterol a phlannu hadau. Dros yr wythnos gall pobl ifanc roi cynnig ar wneud breichledi cyfeillgarwch a mwynhau gweithgareddau yn ardal gelf y plant.

Bydd gwybodaeth ar gael am grantiau arallgyfeirio ar ffermydd, cyfleoedd i faethu, cynlluniau ailgylchu a llawer mwy.

Dros yr wythnos bydd y cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a fydd yn cynnig sesiynau syllu ar yr haul yn y babell fawr. Bydd mudiadau partner eraill hefyd wrth law dros yr wythnos.

Dywedodd y Cynghorydd David Jones, Arweinydd Cyngor Sir Powys: “Rydym yn edrych ymlaen at sioe wych. Rydym yn falch cael digwyddiad mor bwysig ar garreg y drws ac mae’r ffaith bod Sir Frycheiniog yn Sir Nawdd yn gyfle ychwanegol i ni.”

“Bydd ein gweithgareddau’n canolbwyntio ar hyrwyddo’r ardal fel Calon Werdd Cymru, a bydd croeso cynnes i bawb. Trwy ddod i’n stondin fe welwch pa mor arbennig yw Sir Frycheiniog a Phowys.”

Mae stondin Cyngor Sir Powys yn adeilad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Rhodfa K, gyferbyn â llwyfan y Clybiau Ffermwyr Ifanc.

Bydd y cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â mudiadau eraill ar draws faes y sioe. Bydd timoedd 5 x 60 a Datblygu Chwaraeon ym Mhentref Chwaraeon y Sioe Fawr, a bydd yr Adran Diogelwch ar y Ffyrdd yn cymryd rhan mewn arddangosfeydd ym mhabell Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae Powys hefyd yn gweithio law yn llaw â CFFI Cymru i gefnogi gweithgareddau i hybu diogelwch gyrwyr ac ymgyrchoedd iechyd.


RSS