A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Archif

16.07.12 16:11 Age: 338 days

Newidiadau i’r diwrnodau casglu yn Aberhonddu

Gyda’r trefniadau casglu gwastraff ac ailgylchu wedi hen ennill eu plwyf erbyn hyn yn Aberhonddu, rydym yn gorfod newid y diwrnodau casglu i rai trigolion er mwyn helpu i wella’r gwasanaeth ymhellach.

Ar ôl bwrw golwg dros wasanaethau tref Aberhonddu, rydym wedi newid rhai llwybrau casglu yn y dref i helpu’r cerbydau a’r criw berfformio’n fwy effeithlon trwy gwtogi ar filltiroedd, amser a chostau.

Bydd y drefn casglu newydd yn dechrau wythnos nesaf (23 Gorffennaf) ac yn effeithio ar y canlynol:

Bydd gwastraff ardal Llanfaes yn cael ei gasglu ar ddydd Llun. Bydd eiddo yn ardal Maesyffynnon / Bronycrug yn symud i ddydd Mawrth. Bydd eiddo yn ardaloedd Beacons Parc/Pontwillim/Struet/St John yn symud i ddydd Mercher. Bydd eiddo yng nghanol tref Aberhonddu a’r Watton yn symud i ddydd Iau. Bydd eiddo yn ardaloedd Heol Camden a Dorlangoch yn symud i ddydd Gwener.

Bydd yr aelwydydd dan sylw’n derbyn taflen o flaen llaw i roi gwybod iddynt am y diwrnod casglu newydd.


RSS