Cyhoeddwyd y bydd Cyngor Sir Powys yn rhan o brosiect Ewropeaidd sy’n ceisio lleihau’r effaith y bydd gwyliau a digwyddiadau’n eu cael ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig.
Mae’r cyngor yn un o 12 o bartneriaid ar draws deg o wledydd Ewropeaidd a fydd yn rhan o Rwydwaith Digwyddiadau Treftadaeth Ddiwylliannol Sero Effaith, neu ZEN. Ariannir y prosiect gan Raglen IVC INTERREG (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop) sy’n cynnig nawdd ar gyfer cydweithio rhyngranbarthol ar draws Ewrop, a bydd yn parhau tan fis Medi 2014.
Ar hyd a lled Ewrop, mae gwyliau a digwyddiadau sy’n cael eu cynnal mewn canolfannau hanesyddol a safleoedd treftadaeth ddiwylliannol yn cael effaith bositif ar dwristiaeth, amrywiaeth ddiwylliannol a’r economi lleol. Ond mae digwyddiadau o’r fath yn gallu cael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd lleol.
Bydd y cyngor a’i bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i rannu syniadau a phrofiadau er mwyn datblygu methodoleg ar y cyd fel rhan o’r prosiect, gan ystyried ffyrdd i leihau’r effaith y bydd gwyliau a digwyddiadau’n eu cael ar drefi a dinasoedd o ran allyriadau carbon, pwysau ar gludiant a seilwaith a gwastraff.
Dywedodd y Cynghorydd Graham Brown, Aelod o’r Cabinet dros Bolisi Ewropeaidd: “Rwy’n falch bod Cyngor Sir Powys yn un o’r partneriaid yn y prosiect cyffrous hwn. Mae gwyliau a digwyddiadau’n bwysig iawn i’r Sir ond mae’n hanfodol nad ydym yn rhoi gormod o bwysau ar yr amgylchedd”.
Am ragor o wybodaeth ar brosiect ZEN, cysylltwch â’r Uned Gyllid Ewropeaidd ac Allanol ar 01597 826766.