A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Archif

12.06.12 15:42 Age: 346 days

Cynnyrch yn y Drenewydd a allai achosi i rywun dagu

Cynnyrch a allai achosi i rywun dagu

Yn y llun mae un o becynnau'r 'Seven Colour Crystal Boll' a dynnwyd oddi ar stondin ar y farchnad leol yn y Drenewydd.

Mae trigolion ym Mhowys yn cael eu rhybuddion gan y cyngor sir am gynnyrch a allai fod yn beryglus. Fe ddaethpwyd o hyd i'r cynnyrch ar stondin yn y farchnad leol yn y Drenewydd.

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys wedi meddiannu pecynnau o'r 'Seven Colour Crystal Boll'. Roedd y cynnwch wedi cael ei alw'n ôl ar draws yr Undeb Ewropeaidd oherwydd pryderon am ei ddiogelwch.

Mae'r pecynnau'n cynnwys amrywiaeth o beli plastig lliw sydd oddeutu 4mm o ddiamedr. Ond pan fyddant yn cael eu trochi mewn dwr maen nhw'n ymledu'n gyflym ac yn chwyddo i oddeutu 23mm mewn diamedr.

Dywedodd Ken Yorston, Rheolwr Safonau Masnach y cyngor: "Mae'r pecynnau'n edrych yn debyg iawn i losin ac nid oes unrhyw labeli arnynt yn rhoi unrhyw rybudd a gallent fod yn apelgar iawn i blant. Pe bai'r peli'n cael eu bwyta gallent achosi rhywun i dagu.

"Dylai unrhyw un sydd wedi prynu'r cynnyrch cael gwared ohonynt a/neu gysylltu â'r gwerthwr. Os ydych yn amau bod eich plentyn wedi llyncu'r cynnyrch dylech geisio cael cyngor meddygol brys a chofiwch i gadw'r pecyn"

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Gwasanaeth Safonau Masnach ar 01686 617524 neu anfonwch neges e-bost trading.standards@powys.gov.uk


RSS