A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Ymunodd bron i 250 o ddisgyblion o ysgolion ar draws Aberhonddu mewn nifer o weithgareddau i ddathlu pen-blwydd Camlas Mynwy ac Aberhonddu yn 200 oed.
Yr wythnos ddiwethaf (Dydd Llun 21 tan ddydd Gwener 25 Mai), cafodd y plant gwahoddiad i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol am hanes ac amgylchedd y gamlas.
Yn Llyfrgell Aberhonddu, bu’r disgyblion yn dysgu am hanes y Gamlas a gawson nhw dro ar adeiladu pontydd bwa gyda staff o Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog. Gwnaethon nhw ddysgu hefyd am sut i ymchwilio i hanes lleol trwy ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell gyda help staff y llyfrgell.
Wrth y gamlas, bu’r disgyblion yn dysgu am blanhigion ac anifeiliaid y gamlas gyda staff a gwirfoddolwyr o Ddyfrffyrdd Prydain a buont yn defnyddio rhwydi ysgubo a hambyrddau dwr i hela chwilod.
Dywedodd Alison Crawshaw, Cydlynydd Dathliadau Pen-blwydd y Gamlas: "Roedd yr wythnos yn llwyddiant mawr gydag amrywiaeth eang o weithgareddau i helpu’r plant i ddysgu am agweddau gwahanol o hanes ac amgylchedd y Gamlas.
"Hoffwn ddiolch i staff a gwirfoddolwyr o Ddyfrffyrdd Prydain, Llyfrgell Aberhonddu, Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog a Theatr Brycheiniog am roi diwrnod llawn hwyl i ni."
Mae’r dathliadau’n parhau yn ystod hanner tymor gyda gweithgareddau i’r teulu o ddydd Mercher 6 tan ddydd Gwener 8 Mehefin, gan gynnwys:
- cymhorthfa hanes teulu am ddim yn Llyfrgell Aberhonddu rhwng 10am-12pm ar 6, 7 a 8 Mehefin
- Gweithgareddau crefft y gamlas yn Llyfrgell Aberhonddu ar 6 Mehefin rhwng 2 - 4.30pm ac ar 7 Mehefin rhwng 10 - 11.30am (£1 y plentyn - ffoniwch 01874 623346)
Paentio celf y gamlas ar gynfas/masgiau yn Oriel Ardent ar 6 a 7 Mehefin rhwng 11am - 1pm (£4.50 y pen – ffoniwch 01874 623333 i gadw lle)
- Taith Gerdded ac Araith gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog ar hyd y Gamlas a’r Afon ar 7 Mehefin rhwng 1 - 3.30pm (oedolion £3/plant am ddim – cwrdd wrth bont garej Morrisons – parcio yn y Ganolfan Subud – nid oes angen cadw lle)
- Paentio wynebau celf y gamlas yn Oriel Ardent 8 Mehefin 10am - 4pm (£2 y plentyn – galwch heibio)
Am ragor o wybodaeth am y rhain a digwyddiadau pen-blwydd eraill ewch i www.facebook.com/MonmouthshireandBreconCanal neu cysylltwch ag Alison Crawshaw ar 01874 636671 neu e-bost canal200powys@gmail.com