Mae trigolion Llanidloes a’r Drenewydd yn cael eu hannog i ymweld â chyngorfeydd taro heibio'r wythnos nesaf (wythnos yn dechrau 11 Mehefin) i ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am y newidiadau i’r gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu a sbwriel o ymyl y ffordd.
Bydd tîm Gwasanaethau Gwastraff Cyngor Sir Powys wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a chynnig cyngor cyn i’r casgliadau ddod i rym o 2 Gorffennaf ymlaen, gan gynnwys gwybodaeth y casgliadau â chymorth.
Bydd enghreifftiau o’r blychau ailgylchu newydd, gan gynnwys y tri blwch ailgylchu, biniau ar olwynion a chadis bwyd y gellir gofyn amdanyn nhw hefyd i’w gweld yn y cynghorfeydd, a hefyd yn Llyfrgell y Drenewydd, Man Gwasanaethau Cwsmer Y Drenewydd, Canolfan Hamdden Maldwyn, Llyfrgell a Man Gwasanaethau Cwsmer Llanidloes a Chanolfan Chwaraeon Llanidloes cyn i’r newidiadau ddod i rym.
“Mae’r cyngorfeydd hyn yn gyfle gwych i drigolion fynd at y swyddogion i gael atebion i’w cwestiynau,” meddai Steve Holdaway, Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol Cyngor Sir Powys.
“Mae llawer o bobl wedi dod i’r cyngorfeydd yn ardaloedd eraill y sir, ac rydym yn obeithiol y bydd y bobl y bydd y newidiadau yn effeithio arnynt yn dod draw i weld drostyn nhw’u hunain sut rydym yn ceisio ein cyfraddau ailgylchu.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu un o’r cyfarfodydd hyn, ewch i’r lleoliad agosaf:
Dydd Llun 11 Mehefin, 9.30am – 5.30pm yn Llyfrgell Y Drenewydd Dydd Mawrth 12 Mehefin, 9.30am – 7.30pm yn Neuadd y Dref, Llanidloes Dydd Sadwrn 16 Mehefin, 10am - 3pm yn Neuadd y Farchnad, Y Drenewydd Dydd Iau 21 Mehefin, 2pm – 7pm yn archfarchnad Morrisons, Y Drenewydd