A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Archif

24.05.12 11:27 Age: 360 days

Diweddaru'r Mannau Gwybodaeth i'r Cyhoedd

Diweddaru'r Mannau Gwybodaeth i'r Cyhoedd

Ben Millington gyda'i nain, Jean Hudson, yn defnyddio'r Man Gwybodaeth i'r Cyhoedd sydd wedi'i ddiweddaru

Mae ciosgau'r Mannau Gwybodaeth i'r Cyhoedd yn darparu mynediad am ddim i'r rhyngrwyd ac erbyn hyn yn cynnig galwadau yn rhad ac am ddim i wasanaethau detholedig. Mae'r chwe chiosg gyda sgriniau cyffwrdd, a leolir ar draws y sir, yn darparu gwybodaeth am wasanaethau lleol a chenedlaethol, gweithgareddau a chefnogaeth.

Mae'r sgrin gyffwrdd yn caniatáu i'r cyhoedd fwrw golwg dros 800 o wefannau a chael gwybodaeth am bynciau fel gofal plant, hyfforddiant lleol a chynghori. Gall defnyddwyr chwilio am symbol y ffôn ar y sgrin i wneud galwadau ffôn am ddim i sefydliadau dethol a gallant hefyd e-bostio gwybodaeth atyn nhw eu hunain neu at ffrindiau neu wybodaeth y gallant gyfeirio ati yn ddiweddarach.

Meddai Gloria Jones-Powell, Cyd-Gadeirydd Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys: "Lleolir y Mannau Gwybodaeth i'r Cyhoedd mewn lleoliadau ar draws y sir i helpu preswylwyr i ddod o hyd i'r wybodaeth a'r cymorth y mae arnynt ei angen. Bydd y nodweddion newydd, gan gynnwys y cyfleuster i ffonio am ddim, yn helpu i roi pobl mewn cysylltiad â sefydliadau allweddol fel eu bod yn teimlo'n fwy gwybodus."

Lleolir Mannau Gwybodaeth i'r Cyhoedd yn y llefydd canlynol:

Canolfan Hamdden Aberhonddu Llandrindod, Ysgol Gynradd Trefonnen Machynlleth, Canolfan Hamdden Bro Ddyfi Y Drenewydd, Canolfan Hamdden Maldwyn Y Trallwng, Canolfan Hamdden Y Flash Llyfrgell Ystradgynlais

Mae Mannau Gwybodaeth i'r Cyhoedd (PIPs) yn cael eu cynnal gan Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Powys a gellir edrych ar y wybodaeth a geir yn y MGC (PIPs) ar-lein drwy gyfrwng y tab Cysylltiadau Defnyddiol yn www.powys.gov.uk /fis.

Cymerwch ran mewn arolwg ynghylch y Mannau Gwybodaeth i'r Cyhoedd (PIPs) ac fe gewch gyfle i ennill tymor o docyn nofio i'r teulu. Ewch i weld eich ciosg MGC (PIP) lleol neu ewch i lenwi'r arolwg ar y tab Cysylltiadau Defnyddiol yn www.powys.gov.uk / fis. Daw'r arolwg i ben ar 29 Mehefin, 2012


RSS