A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Archif

28.05.12 08:53 Age: 361 days

Y Fflam Olympaidd yn cyrraedd Machynlleth

ar Daith Gyfnewid y Fflam Olympaidd

ar Daith Gyfnewid y Fflam Olympaidd

Cafodd Powys ei blas gyntaf ar y Gemau Olympaidd wrth i dref Machynlleth gael ei chynnau ar Daith Gyfnewid y Fflam Olympaidd trwy’r dref.

Daeth miloedd o drigolion a phlant ysgol i lenwi’r strydoedd, i chwifio’u baneri a gweiddi wrth iddynt aros i gael cipolwg prin ar y Fflam Olympaidd hanesyddol wrth iddi basio trwy’r sir am y tro cyntaf.

Pavlo Makogonchuk, llawfeddyg o’r Iwcraen, oedd y fflamgludwr cyntaf, ac fe glywodd fonllefau’r dyrfa fywiog wrth iddo redeg am 300m ar hyd Heol Pentrerhedyn. Yna, trosglwyddwyd y Fflam i Theresa Colley o Sir Gaerloyw, sydd wedi codi arian ar gyfer plant anabl, ac fe orffennodd hi ei hadran ger twr y cloc, gan godi arian ar gyfer plant anabl.

Un o’r trigolion lleol, Stephen Soyle redodd ddarn olaf y Daith Gyfnewid leol. Cododd symiau enfawr i’r Lleng Brydeinig ac mae wedi bod yn weithredol wrth hybu chwaraeon a’r celfyddydau yn ardal Machynlleth. Derbyniodd llawer iawn o gefnogaeth wrth iddo loncian a dawnsio ei ffordd yn ôl i Pen’rallt and Heol y Doll cyn i’r confoi droi am Fangor.

Darparwyd adloniant gan dri o gerbydau’r noddwyr, sef Coca Cola TSB a Samsung, a’r strydoedd yn llawn lliw a’r haul yn tywynnu, roedd yn bendant yn ddiwrnod na fyddwn i fyth yn ei anghofio. Roedd yn bendant yn ddiwrnod na fyddwn i’n ei anghofio’n rhwydd.

Yn ystod y prynhawn, dechreuodd rhai o’r ysgolion a ddaeth i weld y Daith Gyfnewid fynd ati i fwynhau eu Gwyl Olympaidd eu hunain yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi. Wedi’r seremoni agoriadol, fe gynrychiolodd disgyblion y gwahanol siroedd yn eu hoff chwaraeon, gan gynnwys athletau, gymnasteg a boccia, sy’n gam Paralympaidd.

Ddydd Mercher (30 Mai) bydd y Daith Gyfnewid yn dod i mewn i’r sir unwaith eto pan fydd y rhedwyr yn cludo’r fflam trwy Lanymynech tua 10.30 o’r gloch cyn teithio trwy strydoedd Y Trallwng ychydig cyn 11.00 o’r gloch. Mae mapiau a rhagor o wybodaeth am lwybrau’r fflam drwy’r sir i’w cael yn www.powys.gov.uk/olympics.


RSS