A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Archif

25.05.12 16:19 Age: 362 days

Y Ffagl Olympaidd yn nesáu at Bowys

Mae’r torfeydd mawr a’r haul di-ben-draw wedi cyfrannu at y cyffro sy’n cael ei brofi gan y cyhoedd Prydeinig wrth i Daith y Fflam Olympaidd symud drwy’r wlad, ac wythnos nesaf tro Powys fydd hi i weld yr olygfa anhygoel.

Dydd Llun bydd y Fflam Olympaidd yn cael ei chario drwy strydoedd Machynlleth ychydig ar ôl 10 o’r gloch y bore, cyn ei bod yn gadael Cymru ar ôl ymweld â Llanymynech am tua 10.30 y bore a’r Trallwng am tua 10.50 y bore.

Bydd miloedd o ddisgyblion o wahanol ysgolion o amgylch y sir yn mynychu’r digwyddiad, ac yn sicr bydd nifer o drigolion o’r tair cymuned ac o bell yn manteisio ar y cyfle i wylio’r Daith Gyfnewid fel sydd ddigwydd mewn mannau eraill hyd yma.

Cynghorir gwylwyr i gyrraedd tuag awr o flaen llaw er mwyn manteisio ar y mannau gwylio gorau. Bydd y mannau gorau i weld y Ras Gyfnewid ar ochr chwith y ffordd a bydd yna gyfle i gael nwyddau am ddim o’r noddwyr hefyd, fodd bynnag bydd popeth i’w weld o’r ochr dde hefyd.

Er mwyn creu cymaint o le gwylio ag sy’n bosib ar hyd y llwybr bydd cyfyngiadau parcio ar Heol Pentrerhedyn a Heol Penrallt ym Machynlleth, yn ogystal ag ar Stryd Lydan yn y Trallwng. Disgwylir y bydd y rhain wedi clirio erbyn 2 o’r gloch y prynhawn ym mhob digwyddiad.

Os bydd y tywydd braf yn parhau, cynghorir gwylwyr i ddod ag eli haul a ddigon o ddwr gyda hwy er mwyn gwneud yn siwr nad ydynt yn gorboethi.

Mae busnesau ar hyd llwybr y Daith Gyfnewid yn cael eu cynghori i beidio â threfnu bod unrhyw nwyddau yn cael eu dosbarthu ar ôl 7.30 y bore gan na fydd unrhyw fynediad i gerbydau tan ar ôl i’r ardal gael ei chlirio.

Wrth i’r Ffagl deithio drwy’r cymunedau, bydd ffyrdd yn cael eu cau yn eu tro gan yr heddlu, ond unwaith y bydd y confoi wedi teithio drwy’r ardal bydd y ffyrdd hyn yn cael eu hailagor. Rhybuddir modurwyr i ddisgwyl rhywfaint o oedi ar y diwrnod.

Bydd gwyriad mewn grym o amgylch Llanymynech ar 30 Mai a bydd hefyd mewn grym o gyffordd Pont Mardy yr A483, i’r de o Landysilio, ar hyd y B4393 trwy’r Amwythig tuag at Groesoswallt. Bydd y ffordd ar gau o 9.30 y bore hyd nes bod y Daith Gyfnewid wedi mynd trwy’r pentref.

Mae mapiau yn dangos y llwybr a mannau eraill o bwys megis toiledau a meysydd parcio ar gael trwy fynd i www.powys.gov.uk/olympics, ynghyd â rhagor o wybodaeth a chwestiynau cyffredin. Gallwch gael rhagor o wybodaeth hefyd drwy ffonio 0845 602 7030.

Bydd Cyngor Sir Powys hefyd yn trydar o’r digwyddiad, ac os hoffech gael y newyddion diweddaraf yn ystod y ddau ddiwrnod dilynwch @PowysCC ar Twitter.

Os nad yw’n bosibl i chi gyrraedd y cymunedau i wylio’r digwyddiad, mae’r BBC yn darlledu’n fyw wrth i’r Ffagl deithio drwy’r DG ewch i www.bbc.co.uk/torchrelay.


RSS