Chwe mis yn unig sydd i fynd tan y newid mwyaf yn y modd y mae’r gwasanaeth heddlu yng Nghymru a Lloegr yn cael ei redeg, a chwe mis tan y caiff pobl y cyfle i ethol eu Comisiynydd Heddlu a Throsedd cyntaf erioed.
Ar y 15fed o Dachwedd eleni, bydd y bobl sy’n byw yn ardal Heddlu Dyfed Powys hynny yw, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Powys a Cheredigion, yn cael cyfle i leisio’u barn ynghylch plismona drwy bleidleisio i’w hymgeisydd dewisol.
Prif rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd fydd pennu cyfeiriad strategol yr Heddlu. Bydd ei ddyletswyddau yn ehangach na rhai’r Awdurdod ac yn cynnwys comisiynu gwasanaethau a gwella’r bartneriaeth weithio gyda’n partneriaid cyfiawnder troseddol.
Bydd y Prif Gwnstabl yn cadw’i annibyniaeth weithrediadol ac yn parhau i ddarparu gwasanaethau plismona yn unol â’r blaenoriaethau a bennir gan y Comisiynydd ar ran y cymunedau.
Meddai Delyth Humfryes, Cadeirydd Awdurdod Heddlu Dyfed Powys: “Yn fy marn i, mae’n bwysig ein bod yn deall bod dyfodiad y Comisiynydd yn golygu newid mawr yn y modd y mae plismona yn cael ei reoli a’i adolygu yng Nghymru a Lloegr.
“Mae plismona ein cymunedau yn effeithiol a diogelu’r cyhoedd rhag trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol bwysig. Mae gan Heddlu Dyfed Powys enw da am berfformiad rhagorol a oruchwyliwyd gan Awdurdod yr Heddlu dros nifer o flynyddoedd.
“Rwy’n gobeithio y bydd pwy bynnag a etholir yn Gomisiynydd dros Ddyfed Powys yn gallu parhau i gynnal y safonau uchel y bydd yn eu hetifeddu wrth Awdurdod yr Heddlu, er mwyn i’r bobl sy’n byw a gweithio yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru fedru parhau i dderbyn gwasanaeth plismona o’r radd flaenaf.”
Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ar wefan yr Awdurdod: www.dyfedpowyspoliceauthority.co.uk gwefan y Swyddfa Gartref: www.homeoffice.gov.uk/police/police-crime-commissioners a gwefan y Comisiynydd Etholiadol: www.electoralcommission.org.uk
Swyddog Adroddol Ardal yr Heddlu fydd Mr Bryn Parry-Jones o Neuadd y Sir, Hwlffordd, ac ef fydd yn gyfrifol am y modd y cynhelir yr etholiad.