A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Archif

15.05.12 11:30 Age: 1 yrs

Dirwy enfawr i ddeliwr platiau rhifau anghyfreithlon

Mae gwerthu nifer fawr o rifau platiau cerbydau anghyfreithlon i gwsmeriaid dros y byd ar y rhyngrwyd wedi costio bron £8,000 i fasnachwr o Essex.

Ymddangosodd Christopher Browning, Cyfarwyddwr cwmni Mx-Moto Ltd o Essex, yn Llysoedd Barn Aberhonddu trwy ddolen fideo ar ddydd Mercher 9 Mai ar ôl cael ei erlyn gan Gyngor Sir Powys.

Plediodd Browning, 48, yn euog i ddwy drosedd dan y Ddeddf Nodau Masnach 1994 a thair trosedd dan y Ddeddf Troseddau Cerbydau 2000 yn yr erlyniad a oedd yn cael ei arwain gan Wasanaeth Safonau Masnach y cyngor. Roedd y troseddau’n gysylltiedig â’i gwmni ar y rhyngrwyd.

Cafodd dirwy o £3,090 am y troseddau a gorchmynnwyd iddo dalu costau cyfreithiol a chostau’r erlyniad o £4,843 a thaliadau ychwanegol o £15 i’r dioddefwr.

Daeth y gwasanaeth o hyd i gwmni Browning ar y rhyngrwyd a phrynwyd archebion prawf gyda help rhai oedd yn dal brandiau, megis Harley Davidson, a darganfuwyd bod y platiau a ddosbarthwyd gan y cwmni yn torri’r Ddeddf Nodau Masnach. Datgelodd yr ymchwiliad hefyd nad oedd y cwmni wedi’i gofrestru gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) i ddosbarthu platiau cerbydau. Nid oedd yn gofyn chwaith am brawf mai’r unigolyn oedd yn gofyn am y platiau oedd y perchennog cofrestredig.

Y prif broblemau yn gysylltiedig â Mx-Moto Ltd oedd:

- methiant i gofrestru’r busnes gyda’r DVLA, sy’n rhaid ei wneud yn gyfreithiol.

- methiant i sicrhau mai’r unigolyn oedd yn gofyn am y plât cerbydau oedd perchennog cofrestredig y cerbyd neu i ddilysu dogfennau.

- roedd gan rai o’r platiau llythrennau/rhifau wedi’u cam osod (er mwyn rhoi’r argraff o enw neu air), methwyd hefyd i roi eu manylion busnes ar waelod plât cofrestru’r cerbyd.

- roedd gan rai o’r platiau cofrestru cerbydau marciau cofrestredig wedi’u rhoi arnynt, heb ganiatâd perchennog y marc masnach, sy’n drosedd dan y Ddeddf Marciau Masnach 1994.

Gwerthodd y cwmni dros 150 o blatiau cerbydau anghyfreithlon dros gyfnod o ddau fis cyn i’r warant gael ei ddosbarthu ym mis Medi 2011.

Cefnogwyd yr ymchwiliad gan Safonau masnach, yn ogystal â’r DVLA gan Scambusters Wales ac roedd yn rhan o ymchwiliad ehangach i droseddau ar y rhyngrwyd.

Dywedodd Steve Holdaway, Pennaeth Gwasanaethau Lleol ac Amgylcheddol y Cyngor: “Mae’n bosibl bod aelodau o’r cyhoedd wedi prynu’r platiau hyn heb yn wybod ac yn ddidwyll ac am bris da, ond wedi cael eu stopio gan yr heddlu ar ôl hynny a darganfod bod yn rhaid iddynt wario rhagor o arian er mwyn cael platiau cyfreithlon. Mae’r achos hwn wedi bod yn enghraifft dda o gydweithio gyda’r DVLA."

Dywedodd Clive Jones, Prif Swyddog Safonau Masnach y Cyngor: “Bellach, nid yw’n dderbyniol i unigolion sy’n torri’r gyfraith elwa o’u troseddau. Mae’r achos hwn yn enghraifft dda o awdurdodau safonau masnach yn arwain y frwydr yn erbyn troseddwyr ac o gydweithio rhanbarthol trwy Scambusters.

"Hoffwn hefyd ddiolch i Safonau Masnach Essex, Heddlu Essex a Harley Davidson am eu gwaith yn ystod yr ymchwiliad hwn."

Dywedodd llefarydd ar ran y DVLA: "Mae’r gyfraith yn glir bod yn rhaid i gyflenwyr platiau cerbydau fod wedi’u cofrestru gyda’r DVLA, dylent wneud yn siwr pwy yw’r perchennog cofrestredig, a gwirio dogfennau cyn cyflenwi platiau. Rhaid cadw cofnodion o’r gwiriadau hyn am dair blynedd. Mae’r achos hwn yn dangos bod yn rhaid i gyflenwyr cydymffurfio â’r gyfraith. Bydd Safonau Masnach a’r DVLA yn parhau i weithio’n galed i ddod o hyd i fusnesau sydd ddim yn cydymffurfio ac i gymryd y camau gorfodi angenrheidiol."


RSS