A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Cyhoeddwyd rhybudd i drigolion Powys ynglyn â sgâm diogelu taliadau sydd eisoes wedi targedu un o drigolion gogledd y sir.
Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi’r rhybudd ynghylch sgâm sy’n defnyddio gwasanaethau trosglwyddo arian cyfreithlon, gan gynnwys UKash, MoneyGram a PayPoint.
Mae Twyllwyr yn galw pobl yn ddiwahoddiad gan gynnig ad-daliadau ffug am Yswiriant Diogelu Taliad (PPI) a gam-werthwyd iddynt ar fenthyciadau blaenorol. Er mwyn rhyddhau’r arian, gofynnir i ddioddefwyr posibl dalu ffioedd comisiynu sy’n golygu eu boed yn anfon yr arian at y twyllwyr, sy’n aml yn gweithio o dramor.
Ar yr achlysur yma, cafodd dioddefwr ym Mhowys alwad ddiwahoddiad gan rywun a oedd yn dweud ei fod wedi talu PPI ar gam, a bod y galwr yn gallu adfer y tâl yma i’r dioddefwr. Fe wnaethant ofyn am ffi gomisiynu o £200, ac roedd yn rhaid i’r dioddefwr anfon y ffi i gyfeiriad yn Llundain gan ddefnyddio UKash.
Mae MoneyGram, UKash a PayPoint yn gynlluniau cyfreithlon sy’n caniatáu i bobl anfon arian yn ddigidol heb fod gan y derbynnydd gyfrif banc. Er bod MoneyGram ac Ukash yn wasanaethau cyflym a diogel sy’n caniatáu i ddefnyddwyr anfon a derbyn arian ar-lein, ond mae PayPoint yn wasanaeth sy’n cael ei ddefnyddio mewn sawl siop, yn bennaf i dalu biliau cyfleustodau ac ychwanegu credyd i ffonau symudol.
Dywedodd Ken Yorston, Rheolwr Safonau Masnach y cyngor: “Mae’r twyllwyr yn manteisio ar bobl ac yn eu tynnu i mewn i’r sgâm yma trwy addo arian iddynt. Nid yw’r sgâm wedi’i gyfyngu i unrhyw ardal benodol, a gellir targedu unrhyw un.
"Byddant yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gael arian gan y dioddefwyr, gan gynnwys MoneyGram, PayPoint a Ukash. Mae’r rhain yn caniatáu iddynt dderbyn arian y dioddefwr heb ddefnyddio cyfrif banc. Mewn sawl achos, mae hyn wedi golygu ei bod bron amhosibl dilyn eu trywydd.
"Rydym am rybuddio pobl i fod yn arbennig o wyliadwrus ac i wrthod y galwyr diwahoddiad hyn. Os ydych am ddarganfod a ydych yn gymwys i dderbyn ad-daliad PPI, rhowch wybod i gwmni cydnabyddedig sydd wedi’i gofrestru â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder."
Dylai unrhyw un sy’n amau twyll neu a hoffai gyngor gysylltu ag Action Fraud ar 0300 123 2040, neu ymweld â’u gwefan ym www.actionfraud.org.uk.
Dylai unrhyw un sy’n ddioddef twyll gysylltu â Heddlu Dyfed Powys ar 101.