A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Archif

15.05.12 11:34 Age: 1 yrs

Casgliadau ailgylchu newydd i ddechrau yn Llanspyddid

Bydd trigolion yn Llanspyddid yn dechrau elwa o’r casgliadau gwastraff ac ailgylchu newydd o wythnos nesaf ymlaen (w/c 21 Mai).

Dechreuodd y gwaith o ddosbarthu’r cynwysyddion newydd yr wythnos hon, a dylai’r holl drigolion sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau eu derbyn erbyn dydd Gwener 18 Mai.

Bydd y casgliadau newydd yn dechrau’r wythnos ganlynol a bydd y casgliad cyntaf yn cymryd y deunyddiau i’w hailgylchu a’r sbwriel cyn i’r casgliadau biniau ar olwynion ddechrau bob pythefnos.

Os nad ydych wedi derbyn eich cynwysyddion eto, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am y newidiadau, ffoniwch y tîm Gwasanaethau Gwastraff ar 0845 602 7035.

Mae cynyddu cyfraddau ailgylchu a chompostio yn flaenoriaeth dan Gynllun Newid Powys.


RSS