A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Cyhoeddodd Cyngor Sir Powys y bydd dros ddeugain o orsafoedd pleidleisio ar draws Powys ar gau'r wythnos nesaf oherwydd etholiadau un ymgeisydd
Er bod y Cyngor yn annog etholwyr i heidio at y gorsafoedd pleidleisio ddydd Iau 3ydd Mai ac i ddefnyddio’u hawl i bleidleisio, bydd 46 o orsafoedd pleidleisio ar draws y sir ar gau oherwydd etholiadau un ymgeisydd.
Os mai un o’r canlynol yw eich gorsaf bleidleisio leol chi, yna mae eich Cynghorwyr Sir a Chymuned wedi cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad ac ni fyddwch yn pleidleisio ar ddydd Iau 3ydd Mai.
Sir Frycheiniog
1. Neuadd Clarence, Crughywel
2. Neuadd yr Eglwys, Llanbedr
3. Neuadd yr Ysgol, Llangenni
4. Neuadd y Pentref, Glangrwyne
5. Neuadd Gurnos, Heol Cwmphil
6. Neuadd Les, Cwmtwrch Uchaf
7. Canolfan Gymuned, Llanwrthwl
8. Neuadd yr Eglwys, Maesmynis
9. Neuadd y Dref, Talgarth
10. Neuadd Eglwys Sant Cynog, Ystradgynlais
11. Ysgol Gynradd Glanrhyd.
Sir Drefaldwyn
12. Canolfan y Banw
13. Canolfan Gymuned Brynhafren
14. Hen Ysgol Aberriw
15. Canolfan Ieuenctid, Ysgol Bro Ddyfi
16. Canolfan Gymuned Castell Caereinion
17. Ystafell Eglwys Cemaes
18. Canolfan Gymuned Glantwymyn
19. Tafarn Dwynant Ceinws
20. Hen Ysgol Cegidfa
21. Neuadd Gymuned Ardd-lin
22. Neuadd Bentref Llanfihangel
23. Yr Institiwt, Llanfyllin
24. Neuadd Goffa Llangedwyn
25. Capel Llangurig
26. Canolfan Gymuned Pontrobert
27. Neuadd Goffa Llangynog
28. Canolfan Ieuenctid Llanidloes
29. Neuadd Gyhoeddus, Llanrhaeadr YM
30. Neuadd Goffa Llansilin
31. Canolfan Gymuned Llanwddyn
32. Canolfan Gymuned Meifod
33. Neuadd Gyfarfod Trehafren
34. Canolfan Pennant
35. Canolfan Gymuned Trefeglwys
36. Festri Capel Llawryglyn
37. Neuadd Gymuned Penffordd-las
Sir Faesyfed
38. Canolfan Gymuned, Y Groes
39. Canolfan Gymuned, Penybont
40. Neuadd Goffa James Vaughan, Hundred House
41. Neuadd yr Eglwys, Aberedw
42. Neuadd y Jiwbilî, Llanelwedd
43. Neuadd Gymuned Llanddewi-yn-Hwytyn
44. Neuadd Gymuned Llangynllo
45. Canolfan Gymuned Dolau
46. Canolfan Gymuned Llanddewi
Ewch i www.powys.gov.uk am wybodaeth bellach am eich cynrychiolwyr newydd.