A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Archif

23.04.12 16:17 Age: 1 yrs

Tacsis yn ufuddhau i’r rheolau trwyddedu.

Mae archwiliadau i sicrhau bod tacsis sydd wedi’u trwyddedu gan Gyngor Sir Powys yn ufuddhau i’r rheolau trwyddedu, wedi datgelu bod nifer fawr yn cydymffurfio.

Mae Tîm Trwyddedu’r cyngor wedi cynnal nifer o wahanol archwiliadau ar draws y sir ar gerbydau hacni a cherbydau llogi preifat. Cynhaliwyd yr archwiliadau hyn ar y cyd â Heddlu Dyfed Powys a’r Adran Cludiant Ysgol.

Archwiliwyd 15 o gerbydau mewn tair ysgol yn y sir gan ddatgelu bod un gyrrwr heb ddangos ei fathodyn.

Archwiliwyd 10 o gerbydau llogi preifat a cherbydau hacni yn Y Trallwng a’r Drenewydd gan ddangos bod nifer fawr yn cydymffurfio. Derbyniodd un gyrrwr rybudd ysgrifenedig am fethu cael diffoddwr tân ar yr adeg hynny.

Archwiliwyd 21 o gerbydau gyda’r nos yn ardal Aberhonddu a’r Gelli. Cafodd un cerbyd ei stopio am gario gormod o deithwyr, ac ymhlith y mân droseddau eraill oedd gyrrwr heb ei fathodyn a’r math anghywir o ddiffoddwr tân mewn cerbyd arall.

Dywedodd Nigel Williams, Uwch Swyddog Trwyddedu’r Cyngor: “Rydym yn cynnal yr archwiliadau hyn er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, bod y cerbydau’n ddiogel ac yn gyffyrddus a’u bod yn glynu wrth reolau’r drwydded.

“Mae’n beth da gweld bod mwyafrif helaeth o’r cerbydau’n cydymffurfio â’r amodau trwyddedu. Byddwn yn parhau i gynnal yr archwiliadau hyn er mwyn i’r cyhoedd allu teithio’n ddiogel.”


RSS