A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Llanspyddid fydd y pentref nesaf yn ardal Aberhonddu i elwa o’r casgliadau gwastraff ac ailgylchu newydd sy’n cael eu cyflwyno gan Gyngor Sir Powys. Bydd y casgliadau’n rhoi’r cyfle i aelwydydd ailgylchu rhagor o’u gwastraff trwy gasgliadau ymyl y ffordd.
Bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau yn ystod yr wythnos yn dechrau 21 Mai a bydd yr aelwydydd a fydd yn cael eu heffeithio’n derbyn taflen gyflwyno a fydd yn rhoi manylion y newidiadau i gyd. Bydd y daflen yn cael ei dosbarthu’r wythnos hon (wythnos yn cychwyn 23 Ebrill). Bydd hefyd yn cynnwys ffurflen ar gyfer gofyn am fin llai ar olwynion.
Bydd y trigolion yn derbyn cynwysyddion newydd wythnos cyn i’r gwasanaeth newydd ddechrau, ynghyd â llyfryn cynhwysfawr a chalendr yn esbonio mewn mwy o fanylder sut fydd y cynllun yn gweithio.