A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Archif

20.04.12 14:10 Age: 1 yrs

Cynwysyddion ailgylchu yn cael eu dosbarthu yn ardal Machynlleth

Bydd trigolion yn ardal Machynlleth, Glantwymyn, Llanbrynmair a Carno yn derbyn eu cynwysyddion ailgylchu newydd yr wythnos hon (wythnos yn cychwyn 23 Ebrill) wrth i’r newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu o fin y ffordd agosáu.

Bydd aelwydydd yn derbyn tri blwch ailgylchu - blwch coch ar gyfer tuniau a phlastig, blwch glas ar gyfer papur a chardfwrdd a blwch lliw ‘acwa’ ar gyfer gwydr. Byddant hefyd yn derbyn cadi cegin bychan ar gyfer gwastraff bwyd gyda sachau y gellir eu compostio a chadi mwy y gellir ei gloi i storio y tu allan, ynghyd â bin olwynion du ar gyfer sbwriel na ellir ei ailgylchu. Disgwylir y bydd y cynwysyddion i gyd wedi’u dosbarthu erbyn diwedd wythnos nesaf.

Bydd y cynllun newydd yn dechrau yn ystod yr wythnos yn dechrau 7 Mai a bydd y gwasanaeth yn cynnig casgliadau wythnosol ar gyfer deunydd ailgylchu a chasgliadau bob pythefnos ar gyfer sbwriel. Bydd calendr yn cael ei ddosbarthu hefyd a fydd yn dangos y gwahanol wythnosau ar gyfer y casgliadau ynghyd â chanllaw ailgylchu cynhwysfawr.

Dywedodd Steve Holdaway, Pennaeth Gwasanaethau Lleol ac Amgylcheddol ar gyfer Cyngor Sir Powys: “Rydym yn ceisio ei wneud cyn hawsed â phosibl i drigolion ailgylchu cymaint ag y gallant ac i leihau maint y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi yn ddiangen.

“Rydym wedi ymrwymo i gyflawni ein targed ailgylchu o 54% yn ystod 2012/13, ac mae yna hefyd budd economaidd enfawr gan ei fod yn costio oddeutu £120 y tunnell i ni roi sbwriel mewn safleoedd tirlenwi ar hyn o bryd.

“Mae’r cynwysyddion wedi gweithio’n dda mewn mannau eraill o’r sir ac rwy’n siwr y bydd trigolion yn ardal Machynlleth yn eu defnyddio ac yn gweld eu bod yn ailgylchu llawer mwy o’u gwastraff.”


RSS