Fel y mae cynlluniau ar gyfer Wythnos Cewynnau Go Iawn eleni ar fynd, mae Cyngor Sir Powys yn cydweithio gyda Chraff am Wastraff Cymru i annog rhieni i ymuno â’r nifer cynyddol o rieni sy’n defnyddio cewynnau defnydd ‘go iawn’ ar gyfer eu babi.
Digwyddiad codi ymwybyddiaeth blynyddol yw’r Wythnos Cewynnau Go Iawn a gynhelir eleni rhwng 16 a 22 Ebrill. Nod y digwyddiad yw dangos i rieni fel y gall cewynnau y gellir eu hailddefnyddio helpu i arbed dros £500 iddynt, ynghyd â lleihau gwastraff.
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Powys yn darparu cewynnau y gellir eu hailddefnyddio i bob uned mamolaeth ym Mhowys, fel y gallant roi un neu ddau i rieni a fyddai’n hoffi rhoi tro arnynt i weld y manteision drostynt eu hunain. Bydd yr unedau hyn yn hyrwyddo’r ymgyrch trwy gydol yr wythnos.
Dywedodd Steve Holdaway, Pennaeth Gwasanaethau Lleol ac Amgylcheddol Cyngor Sir Powys: “Mewn cyfnod o ddwy flynedd a hanner, bydd babi yn defnyddio tua 5,000 o gewynnau, sy’n costio tua £800 i rieni. Os byddwch yn defnyddio cewynnau go iawn, gallwch gael popeth sydd ei angen arnoch ar lein am gyn lleied â £80, a hyd yn oed wedi ychwanegu £1 yr wythnos am lwyth golchi ychwanegol, gallwch dal i fod yn arbed dros £500.
“Yn ychwanegol at hyn, mae cewynnau go iawn yn ffordd wych o leihau cyfanswm y gwastraff yr ydym yn ei gynhyrchu. Mae pum mil o gewynnau yn cyfateb i 156 o sachau duon ac yn pwyso oddeutu’r un fath â char teulu. Mae’r holl wastraff hyn yn mynd yn uniongyrchol i safleoedd tirlenwi lle y byddant yn cymryd dros 300 mlynedd i ddadfeilio, gan ryddhau nwy methan niweidiol yn y broses.
“Yn ogystal â’r cewynnau eu hunain a deflir ymaith, mae angen i rieni ystyried y pecyn plastig y byddant yn dod ynddynt a sachau sbwriel a brynir i’w taflu ymaith gyda’r cewynnau yn ei hanfod.
“Mae cewynnau go iawn wedi dod ymhell ers y dyddiau pan mai sgwariau teri syml oedd yr unig fath ar y farchnad. Maent yn hawdd iawn i’w defnyddio ac ar gael erbyn hyn mewn nifer o steiliau a dyluniadau gwahanol o ystod o adwerthwyr ar lein yn ogystal â rhai siopau penodol ar y stryd fawr. Rydym yn annog rhieni i fanteisio ar y cyfle hwn i roi tro ar gewynnau go iawn a gweld y manteision drostynt eu hunain.”