A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Archif

13.04.12 15:37 Age: 1 yrs

Chwilio am hyfforddwyr seiclo gwirfoddol i hyfforddi disgyblion cynradd Ystradgynlais

Mae Cyngor Sir Powys yn chwilio am wirfoddolwyr yn ardal Ystradgynlais i hyfforddi disgyblion ysgolion cynradd i seiclo’n ddiogel.

Mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys yn cynnig cwrs hyfforddi seiclo i bob plentyn ym Mlynyddoedd 5 a 6 yn ysgolion cynradd y sir. Ond mae’r Uned yn dibynnu ar wirfoddolwyr i fynd i’r ysgolion hyn i gynnig yr hyfforddiant.

Mae angen brys am wirfoddolwyr yn ardal Ystradgynlais er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant hwn yn mynd yn ei flaen eleni. Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn tâl am eu hamser ac unrhyw gostau teithio, a bydd y Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd yn rhoi hyfforddiant a chymorth llawn.

Bydd disgyblion yn derbyn chwe gwers sy’n para awr yr un dros gyfnod o dair i chwe wythnos a rhaid iddynt gwblhau pecyn gwaith cartref sy’n mynd law yn llaw â’r gwaith ymarferol. Bydd y cyrsiau’n digwydd un ai yn ystod y diwrnod ysgol neu’n syth ar ôl ysgol.

Dywedodd Nicky Davies, Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd dros Dde Powys: “Mae dysgu plentyn i seiclo’n ddiogel yn rhan bwysig o’u haddysg diogelwch ar y ffyrdd ac yn helpu seiclwyr ifanc i ddysgu sut i gasglu gwybodaeth ac yna gwneud penderfyniadau ar beth i’w wneud wrth seiclo mewn traffic.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn hyfforddwr neu angen gwybodaeth bellach, cysylltwch â Nicky Davies ar 01874 612355.

Bydd pob hyfforddwr newydd yn cael gwiriad gan yr heddlu cyn y byddant yn gallu hyfforddi’r plant.


RSS