A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Anrhydeddwyd sêr y byd chwaraeon yn Ne Powys yng Ngwobrau Chwaraeon Brycheiniog a Maesyfed.
Tîm Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Powys oedd yn cydlynu’r gwobrau i gydnabod a dathlu llwyddiannau unigolion a thimoedd lleol sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel.
Y gwestai arbennig oedd y cyn athletwr rhyngwladol a Hyrwyddwr ‘Ysbrydolwyd gan 2012’ Powys, Matt Elias. Yn arwain y noson am yr ail flwyddyn oedd y cyn- gricedwr enwog Peter Walker.
Dyma restr o enillwyr Gwobrau Chwaraeon Brycheiniog a Maesyfed:
- Arweinydd Chwaraeon Ifanc – Adam Jones
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn – David Sennitt
- Tîm y Flwyddyn (Adran Iau) – Tîm Rygbi Dan 10 Clwb Rygbi Aberhonddu
- Tîm y Flwyddyn (Adran Hyn) – Tîm Bowls y Brodyr Weale
- Hyfforddwraig – Frances Bateman
- Hyfforddwr – Richard Jones
- Clwb y Flwyddyn – Clwb Hoci Aberhonddu
- Chwaraewr Ifanc Anabl y Flwyddyn – Morgan Jones
- Chwaraewr Iau y Flwyddyn (Dan 12) – Luke Davies
- Chwaraewr ifanc y Flwyddyn (Dan 18) – Rhianwedd Price
- Personoliaeth Chwaraeon Anabl y Flwyddyn – Shain Lewis
- Gwasanaethau Amlwg i Chwaraeon – Michael King, Derek Osborne, Brian Prosser, David Vaughan
- Gwobr Cyrhaeddiad Eithriadol – Chaz Davies
- Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn – Natalie Powell
Dywedodd Matt James, Swyddog Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol, Cyngor Sir Powys: "Mae’r gwobrau hyn yn gyfle gwych i ni ddathlu a chydnabod ymroddiad ymhlith ein chwaraeon lleol. Yn ystod y flwyddyn Olympaidd hanesyddol hon, mae’n braf gweld bod dau o sêr y byd chwaraeon yng Nghymru wedi gallu ymuno â ni i gefnogi a dathlu chwaraeon a gweithgarwch corfforol ym Mhowys."
Cynhaliwyd noson debyg yn Sir Drefaldwyn ar ddechrau’r flwyddyn.