A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Archif

05.04.12 09:38 Age: 1 yrs

Sefydlu Gweithgor ar gyfer Bwyty Lakeside

Bydd Cyngor Sir Powys yn sefydlu gweithgor i oruchwylio'r gwaith o ailwampio Bwyty Lakeside yn Llandrindod.

Cytunodd Cabinet y cyngor fis diwethaf (Mawrth) i ailwampio'r cyfleuster cyn rhoi cynnig o'r newydd at ddenu cwmni preifat i'w redeg. Bydd y ty bwyta'n cau dros dro o fis Medi ymlaen i ganiatáu amser i'r gwaith ailwampio gael ei wneud.

Yn ogystal â'r gwaith ailwampio, bydd y gweithgor hefyd yn ceisio denu cwmni preifat i'r safle trwy gyfrwng ymarfer tendro newydd er mwyn sicrhau tenantiaeth fusnes tymor hir.

Dywedodd Stuart Mackintosh, Uwch Reolwyr Cefn Gwlad a Gwasanaethau Contract y Cyngor: "Mae'r cyngor wedi ymrwymo i ddyfodol hirdymor Bwyty Lakeside, a bydd y gweithgor yma a fydd yn rhoi gwybod i'r aelod lleol yn gyson beth yw'r datblygiadau, yn goruchwylio'r prosiect ailwampio cyn i ni geisio o'r newydd i ddenu cwmni preifat i'w redeg.

"Ein bwriad yw ailwampio'r cyfleuster erbyn Medi 2013, ond yn y cyfamser, byddwn yn dechrau ymchwilio i'r ymarfer tendro ac yn rhoi gwybod i bobl sydd â diddordeb pan wnawn hyn.

"Os llwyddwn, bydd y cwmni newydd yn rheoli'r cyfleuster o ddydd i ddydd yn fuan ar ôl Medi 2013, ond y cwmni fydd yn penderfynu pa bryd y byddant yn agor y drysau i'r cyhoedd."


RSS