A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Bydd trigolion Llanddew yn dechrau cael budd o'r casgliadau gwastraff ac ailgylchu newydd o'r wythnos nesaf ymlaen (wythnos yn dechrau 16 Ebrill)
Dechreuwyd dosbarthu'r blychau newydd yr wythnos hon, a dylai fod pob un o'r trigolion y mae'r newidiadau'n effeithio arnyn nhw wedi derbyn y blychau erbyn dydd Gwener 12 Ebrill.
Bydd y trefniadau casglu newydd yn cychwyn ar 16 Ebrill, a bydd gwastraff ailgylchu a sbwriel yn cael ei gasglu y tro cyntaf, cyn dechrau casglu o'r biniau ar olwynion bob yn ail wythnos.
Os nad ydych eto wedi derbyn eich blychau, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill am y newidiadau, ffoniwch y tîm Gwasanaethau Gwastraff ar 0845 602 7035.
Mae cynyddu'r cyfraddau ailgylchu a chompostio'n flaenoriaeth yng Nghynllun Newid Powys, sy'n manylu ar y prif amcanion a fydd dylanwadu ar y ffodd y bydd gwasanaethau'n cael eu cyflwyno yn y sir dros y tair blynedd nesaf.