A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Archif

02.04.12 08:46 Age: 1 yrs

Y Cyfle olaf i sicrhau eich bod yn gallu pleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol

Gallai pleidleiswyr Powys fod mewn perygl o beidio â chael cyfle i bleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol Ddydd Iau 3 Mai oherwydd nad ydynt ar y gofrestr etholaethol, yn ôl rhybudd a gyflwynwyd gan y cyngor sir.

Dim ond hyd at Ddydd Mercher 18 Ebrill sydd ganddynt i sicrhau eu bod wedi'u cofrestru. Dyma'r dyddiad terfyn hefyd i wneud cais am bleidlais trwy'r post.

Dywedodd y Swyddog Canlyniadau, Jeremy Patterson: "Rydym am wneud yn siwr na fydd neb yn colli eu hawl i gymryd rhan yn yr etholiadau hyn oherwydd nad ydynt wedi'u cofrestru i bleidleisio.

"Mae'r etholiadau ar fin cyrraedd, a bydd yn rhaid iddynt sicrhau eu bod wedi'u cofrestru erbyn 18 Ebrill. Mae rhai yn credu eich bod wedi'ch cofrestru'n awtomatig pan fyddwch yn talu treth y cyngor, ond nid yw hynny'n wir.

"Os nad ydych wedi'ch cofrestru, yna ni chewch bleidleisio."

Os nad ydych yn sicr a ydych ar y gofrestr etholiadol ai peidio, neu os ydych am i ni anfon ffurflen gofrestru atoch, cysylltwch â Thîm Cofrestru Etholiadol y cyngor ar 01597 826202 neu ewch i www.powys.gov.uk lle gallwch lawrlwytho ffurflen.


RSS