A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi y gellir mwynhau llwybr poblogaidd sy’n gysylltiedig ag un o emynyddion mwyaf enwog Sir Drefaldwyn ymhellach yn awr diolch i gyflwyno canllaw clywedol.
Gall cerddwyr wrando erbyn hyn ar ganllaw clywedol ar Lwybr prydferth Ann Griffiths, sy’n ymestyn am saith milltir i lawr Dyffryn Efyrnwy o Bont Llogel at Bont Robert. Gellir lawr lwytho’r canllaw clywedol ar chwaraewr MP3.
Unwaith y bydd wedi’i lawr lwytho, bydd y canllaw clywedol yn dweud wrthych am leoedd diddorol ar hyd y llwybr ac am fywyd Ann Griffiths - yr emynydd wraig o’r ddeunawfed ganrif a gafodd ysbrydoliaeth o’r dirwedd brydferth leol. Mae ‘app’ ar gael hefyd am y llwybr i’w chwarae ar i-Ffôn.
Mae Tîm Gwasanaethau Cefn Gwlad y cyngor, sy’n rheoli’r llwybr, wedi gweithio gyda Julie a David Dean o Audio Guide Productions Cyf i gynhyrchu’r canllaw clywedol a’r ‘app’ hyn. Mae’r canllaw clywedol yn cynnwys cyfweliadau gyda Nia Rhosier, ceidwad Canolfan John Hughes ym Mhont Robert a Rab Jones, Uwch Swyddog Hawliau Tramwy'r cyngor.
Dywedodd Ginny Cooke, Swyddog Llwybrau Hamdden y cyngor: “Mae’n ddiddorol gweithio gyda’r technegau newydd hyn a all roi cyfle i bobl edrych, gwrando a dysgu fel y byddant yn cerdded trwy gefn gwlad gwych Powys.
“Gan nad yw signal ffôn symudol yn wych ar y llwybr hwn, dylid lawr lwytho’r canllaw clywedol a’r ‘app’ cyn ymweld.
Gellir dod o hyd i’r canllaw clywedol a’r ‘app’ trwy edrych ar www.powystrails.org.uk
Mae llyfryn gwych hefyd ar y llwybr am £2.50, ar gael yng Nghanolfan Croeso'r Trallwng, Swyddfa Bost Llwydiarth (Pont Llogel) neu’n uniongyrchol gan Dîm Gwasanaethau Cefn Gwlad y cyngor trwy ffonio 01597 827567.