A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Cynnydd mewn Gostyngiadau i Drethi - Mis Hydref 2010 hyd at fis Mawrth 2013

Fis Ionawr 2012 fe gyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai'r cynllun gostyngiadau trethi yn cael ei ymestyn am 6 mis ychwanegol o 1 Hydref 2012 hyd 31 Mawrth 2013.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r daflen esbonio

Cynnydd yn y Rhyddhad Ardrethi Hydref 2010 - Mawrth 2013

80 K

Bydd cynnydd yn y gostyngiadau mewn trethi i fusnesau bychain yng Nghymru rhwng 1 Hydref 2010 a 31 Mawrth 2013. 

Bydd eiddo busnes gyda gwerth trethadwy o hyd at £6,000 yn derbyn gostyngiad o 100% a'r rheini gyda gwerth trethadwy o rhwng £6,001 a £12,000 yn derbyn gostyngiad a fydd yn cael ei leihau ar sail raddol o 100% i ddim.

 

Darlun o ganran bras y gostyngiad sydd wedi'i dapro 

Gwerth Trethadwy

% y Gostyngiad

Gwerth Trethadwy

% y Gostyngiad

0-6000

100

9,000

50

7000

83.4

10,000

33.3

8000

66.6

11,000

16.6

 

Os yw busnes yn derbyn cyfradd uwch o ostyngiad dan y cynllun presennol na dan y cynllun newydd, bydd yn derbyn cyfradd y gostyngiad sydd fwyaf manteisiol iddo.

 

Pa gynllun Gostyngiadau a fydd yn gymwys ar gyfer y cyfnod mis Hydref 2010 hyd at 31 Mawrth 2013? 

 

Categori

Gostyngiad Trethi o

Gostyngiad Trethi i

Cynllun Gostyngiad Trethi i Fusnesau Bach

Heb eu Heithrio neu mewn Categori arall

0

7,800

Cynllun Newydd

Heb gael ei Ddisgwyl neu mewn Categori arall

7,801

12,000

Cynllun Newydd

Swyddfa'r Post

0

9,000

Cynllun Presennol

Swyddfa'r Post

9,001

12,000

Cynllun Presennol

Gofal Plant

0

9,000

Cynllun Newydd

Gofal Plant

9,001

12,000

Cynllun Newydd

Undebau Credyd

0

9,000

Cynllun Newydd

Eiddo Adwerthu

7,801

10,499

Cynllun Newydd

Eiddo Adwerthu

10,500

11,000

Cynllun Presennol

 

O 1 Ebrill 2013, bydd y trothwyon a gwerthoedd gostyngiadau trethi a oedd

mewn grym ar 1 Ebrill 2010 yn berthnasol - cliciwch yma am Ostyngiad Trethi Ebrill 2010

 

Nodiadau:

1. Rhaid i bob eiddo busnes fod wedi'i feddiannu'n llwyr i fod yn gymwys am ostyngiad.

 

2. Nid yw Eiddo a Eithrir yn gymwys am ostyngiad. Mae hyn yn golygu'r rheini a feddiannir gan gyngor, awdurdod heddlu neu'r Goron; y rheini a feddiannir gan elusennau, clybiau cofrestredig, neu gyrff di-elw y mae eu prif amcanion yn rhai dyngarol, crefyddol, yn amcanion sy'n ymwneud ag addysg, lles cymdeithasol, gwyddoniaeth, llenyddiaeth neu'r celfyddydau cain; cabanau traeth; eiddo a ddefnyddir yn gyfan gwbl i arddangos hysbysebion, parcio cerbydau, gwaith carthffosiaeth neu offer cyfathrebu electronig.

RSS