A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Cyfrifiad 2011

Datganiad cyntaf o amcangyfrifon y Cyfrifiad 2011

Logo

Heddiw (Dydd Llun, 16 Gorffennaf), mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi’r datganiad cyntaf o amcangyfrifon y Cyfrifiad 2011.

Ar noson y cyfrifiad (Dydd Sul, 27 Mawrth 2011), roedd amcangyfrif o 133,000 o drigolion a 58,400 o aelwydydd ym Mhowys.

Tyfodd poblogaeth Powys o 6,700 yn ystod y 10 mlynedd ers y cyfrifiad diwethaf, gan godi o 126,300 yn 2001, cynnydd o 5.3%.  Roedd hyn ychydig yn is na’r twf poblogaeth o 7,000 yn y degawd blaenorol.

Roedd canran y boblogaeth 65 oed a throsodd ym Mhowys yr uchaf a welwyd mewn unrhyw gyfrifiad, sef 23% - cyfanswm o 30,200.

Roedd 1,400 o breswylwyr ym Mhowys yn 90 oed a throsodd yn 2011, o'i gymharu â 1,000 yn 2001 a dim ond 600 yn 1991.  Yn 2011, roedd 6,600 o blant o dan bump oed ym Mhowys, o’i gymharu â 6,800 yn 2001 a 7,000 yn 1991.

Roedd cyfradd yr ymateb o breswylwyr Powys ymhlith y gorau yng Nghymru sef 94.4%, ychydig yn uwch na chyfradd Cymru o 93%.  Gall y timoedd o rifwyr, grwpiau cymunedol a staff y cyngor a gyfrannodd at y llwyddiant yma fod yn falch iawn o'r hyn a gyflawnwyd. 

Bydd yr amcangyfrifon cyfrifiad ac aelwydydd yn helpu'r llywodraeth, cynghorau, busnesau a mudiadau cymunedol i ddynodi anghenion ac i gynllunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddatganiad Cyntaf Cyfrifiad 2011 ar gyfer Powys ar gael ar ein gwefan Powys-i sef www.powys-i.org.uk

RSS