A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae'r daflen hon yn ymwneud ag adwerthu wyau ieir, a brynir mewn blychau keyes neu wedi'u rhagbecynnu. Ar gyfer y gwerthiant o wyau gan y cynhyrchydd yn uniongyrchol i'r defnyddiwr, e.e. o gât y fferm, edrychwch ar ein taflen 'Canllaw ar werthu wyau'n uniongyrchol i ddefnyddwyr'.
Marciau wedi'u stampio ar wyau:
Rhaid stampio'r holl wyau a werthir ar lefel adwerthu gyda chod yn disgrifio'r dull ffermio a ddefnyddiwyd, gwlad y tarddiad a chod unigol y safle cynhyrchu.
Dylai'r hysbysiad hwn nodi ystyr y llythrennau a'r rhifau a stampiwyd ar yr wyau. Er enghraifft, byddai 3UK12345 yn cyfeirio i'r wybodaeth ofynnol fel a ganlyn:
3 - Dull ffermio:
UK - Gwlad y tarddiad
12345 - Cod y safle cynhyrchu, a ddarparwyd i'r paciwr ar ôl cofrestru gyda'r Arolygaeth Marchnata Wyau
Labeli i gyd-fynd ag wyau ar lefel adwerthu:
Rhaid cynnwys y wybodaeth ganlynol gydag wyau wedi'u pecynnu ac wyau rhydd wedi'u graddio a werthir o flychau:
* Nid yw'r datganiadau hyn yn ofynnol ar gyfer wyau a werthir yn rhydd.
Gellir ond pecynnu wyau mewn bocsys gan orsaf becynnu gofrestredig. Gellir darparu bocsys heb eu marcio er hwylustod i gwsmeriaid ar gyfer gwerthu wyau rhydd.
Dylai wyau wedi pacio mewn blychau cymysg (ac eithrio wyau mawr iawn), ble mae pecynnau'n cynnwys wyau o wahanol feintiau, hefyd ddangos:
Pob math o wyau wedi pacio
Gellir hefyd labelu'r pecyn gyda'r wybodaeth ganlynol:
Ar gyfer pob blwch o wyau:
Dyddiad gwerthu erbyn
Does dim gofyniad cyfreithiol i gael dyddiad gwerthu erbyn ar wyau, ond mae yna ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod wyau'n cael eu gwerthu o fewn 21 diwrnod o'u dodwy, sy'n golygu, yn ymarferol, bod rhaid eu gwerthu o leiaf saith diwrnod cyn y dyddiad ar ei orau cyn. Felly efallai bydd dyddiad gwerthu erbyn yn eich helpu i wneud hyn.
Dull ffermio a Thermau Marchnata Arbennig (SMTs)
Gellir nodi'r dull ffermio, yn ymwneud â'r cod a stampiwyd, gan ddefnyddio'r geiriad isod, ble mae hyn yn berthnasol. Mae'r disgrifiadau hyn hefyd yn berthnasol os ydych yn dymuno disgrifio'ch wyau'n wirfoddol pan rydych chi'n eu gwerthu o'ch safle neu o ddrws i ddrws.
Os ni chynhyrchwyd yr wyau yn unol â'r dulliau amlinellwyd ar gyfer wyau maes neu wyau sgubor, cânt eu dosbarthu'n awtomatig fel wyau o ieir mewn cewyll.
Wyau maes
Rhaid cynhyrchu wyau a ddisgrifir fel 'wyau maes' mewn sefydliadau dofednod ble mae gan yr ieir:
Yn ogystal â hyn, mae yna ofynion yn ymwneud â chartref a ffitiadau'r ieir.
Wyau sgubor
Rhaid cynhyrchu wyau sgubor mewn sefydliad dofednod:
Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth am y disgrifiadau eraill o ddulliau ffermio, neu am ofynion cartrefu ieir, gofynnir ichi gysylltu â'r Arolygaeth Marchnata Wyau.
Storio:
Graddau pwysau wyau:
Y graddau pwysau canlynol yn unig a ganiateir ar gyfer wyau; ni ellir defnyddio unrhyw dermau eraill i ddisgrifio pwysau wyau sy'n cael eu hadwerthu:
Yr Arolygiaeth Marchnata Wyau:
Mae'r Adran hon yn dod o dan oruchwyliaeth Iechyd Anifeiliaid (y Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol yn flaenorol), asiantaeth weithredol ar ran Defra ac mae'n gweithredu trwy arolygiaethau marchnata wyau rhanbarthol. Gellir cael mwy o wybodaeth yn ymwneud â'r ddeddfwriaeth uchod, ynghyd â chyngor ar gofrestru fel paciwr ar wefan Defra Iechyd Anifeiliaid.
Sylwer:
Nid yw'r daflen hon yn ddehongliad awdurdodol o'r gyfraith a'i fwriad yw cyfarwyddo yn unig. Am fwy o wybodaeth gofynnir ichi gysylltu â ni.
Adolygiad/diweddariad diwethaf: Gorffennaf 2011
© 2013 itsa Ltd on behalf of the Trading Standards Institute.