A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Bwyd (Safonau a Chyfansoddiad)

Labelu bwyd wedi’i becynnu

Mae'r Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 yn cynnwys rhai gofynion sylfaenol bod rhaid i'r rhan fwyaf o fwydydd gael eu labelu gydag enw'r bwyd, rhestr cynhwysion, arwydd o ganran maint ar gyfer cynhwysion penodol (sy'n hysbys fel QUID - datganiad mesurol cynhwysion), dyddiadau defnyddio erbyn neu ar ei orau cyn, amodau storio, enw/cyfeiriad y gweithgynhyrchwr, tarddle a chyfarwyddiadau ar gyfer defnydd.

Mae gofynion ychwanegol penodol eraill gan gynnwys y rheini mewn cysylltiad âchynhwysion alergol, bwydydd tywynnol, bwydydd a addaswyd yn enetig, diodydd alcoholig a rhagor. Hefyd mae canllawiau mewn cysylltiad ag unrhyw honiadau ynghylch labelu. Yn y mwyafrif o achosion, mae'n rhaid labelu bwyd gyda marc maint mewn unedau metrig ac efallai y bydd angen ei becynnu mewn meintiau penodol.

Mae'r gofynion yn ymwneud â labelu bwyd sydd wedi'i becynnu gan adwerthwyr, cyfanwerthwyr neu wneuthurwyr, i'w gwerthu ar safle yn hytrach na lle cawsant eu pacio.

Yn y canllaw
Pa labelu sydd ei angen?
Gofynion labelu eraill
Honiadau ar labeli
Labelu maeth
Eithriadau

Pa labelu sydd ei angen?
Mae'r gofynion labelu yn gymhleth ac maent yn amrywio o gynnyrch i gynnyrch. Mae yna ofynion sylfaenol ar gyfer labelu pob math o fwyd. Maent fel a ganlyn:

  • enw bwyd. Dylai hwn fod yr enw sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith neu'n enw arferol. Os nad ydy un o'r rhain yn addas, rhaid i'r enw fod yn ddigon manwl i hysbysu'r prynwr o wir natur y bwyd, ac i'w wahaniaethu o gynnyrch gyda hwy y gellir ei ddrysu (Noder: mae dal yn bosib defnyddio enw brand neu enw crand cyhyd a bod hyn ddim yn cael ei amnewid am yr enw go iawn)
  • rhestr o gynhwysion, o'r mwyaf i'r lleiaf, yn ôl pwysau
  • dynodiad maint % ar gyfer cynhwysion penodol neu categorïau o gynhwysion (hefyd yn cael ei alw'n ddatganiad 'QUID')
  • dyddiad 'defnyddio erbyn', 'ar ei orau cyn' neu 'ar ei orau cyn diwedd', ac efallai rhif lot neu swp
  • unrhyw amodau arbennig ar gyfer storio neu defnyddio
  • enw a chyfeiriad y gwneuthurwr, paciwr neu gwerthwr
  • tarddle, os gall ei hepgor fod yn gamarweiniol
  • unrhyw gyfarwyddiadau sydd eu hangen ar gyfer defnyddio'r bwyd

Mae'r rhestr uchod yn grynodeb byr o'r gofynion. Mae yna rheolau penodol am fanylion pob un o'r dynodiadau hyn, a'r dull o'u cyflwyno, sydd hefyd angen eu dilyn. Er enghraifft:

  • os mae eich cynnyrch yn cynnwys unrhyw ychwanegion (megis lliwiau neu gadwolion), rhaid i enw categori'r ychwanegyn yn y rhestr gynhwysion ddod o flaen ei enw neu ei rhif 'E'
  • rhaid i gwybodaeth penodol, megis yr enw, y datganiad maint a'r marc dyddiad, fod yn yr un rhan o'r label - rhaid i'r holl wybodaeth fod yn hawdd i'w ddarllen a ni chaniateir torri ar draws yr enw gyda geiriau neu darluniau eraill

Mae gan rhai cynhyrchion ofynion labelu ychwanegol. Er enghraifft:

  • mae jam angen datganiad am gynnwys ffrwythau a siwgr (solidau toddadwy)
  • mae siocled tywyll angen datganiad o'r canran o solidau coco ac mae siocled llaeth angen datganiad o'r canran o solidau llaeth
  • rhaid labelu cig eidion gyda tharddle penodol a gwybodaeth olrhain
  • mae bwyd babanod angen datganiad o'r oedran ifancach mae'n addas ar gyfer, a datganiad maeth penodol

Gofynion labelu eraill
Mae yna gwybodaeth penodol ychwanegol sy'n rhaid ei gynnwys ar y label os mae'n ymwneud â'r bwyd. Er enghraifft:

  • rhaid nodi cynhwysion alergenig penodol wrth labelu bwyd a diodydd alcoholig wedi'u rhagbecynnu
  • rhaid nodi cryfder diodydd alcoholig (canran o'r cyfaint)
  • os maebwyd neu cynhwysion wedi cael eu harbelydru rhaid datgelu hyn a rhaid i'r label ddweud 'wedi arbelydru' neu 'wedi trin gydag ymbelydredd ïoneiddio'
  • mae gofynion labelu arbennig ar gyfer bwyd neu cynhwysion wedi gwneud o, neu sy'n cynnwys, organebau a addaswyd yn enetig
  • rhaid rhoi rhybudd ar laeth amrwd sydd heb gael ei drin â gwres
  • os mae oes silff bwyd wedi cael ei gynyddu trwy ei bacio mewn nwyon penodol, rhaid ei farcio gyda'r label 'wedi pacio mewn awyrgylch amddiffynnol'
  • mae gofyn bod gan fwydydd sy'n cynnwys melysyddion, melysyddion a siwgr, aspartame neu polyols datganiad labelu penodol ochr yn ochr ag enw'r bwyd.
  • rhaid labelu cynnyrch sy'n cynnwys llaeth sgim ynghyd â braster sydd ddim mewn llaeth, sydd heb eu fformiwleiddio'n benodol ar gyfer babanod a phlant ifanc, gynnwys label sy'n rhybuddio bod y cynnyrch ddim yn addas ar gyfer bwydo babanod

Honiadau ar labeli:

  • mae yna rheolau arbennig yn ymwneud â labelu bwyd yn 'organig'
  • mae yna canllawiau i'w ddilyn pan ddefnyddir termau fel 'naturiol'
  • mae yna canllawiau i'w hystyried yn ymwneud â disgrifiadau bwydydd addas ar gyfer llysfwytawyr neu bobl figan
  • mae yna ystyriaethau arbennig yn ymwneud â'r defnydd o ddarluniadau
  • os mae label bwyd yn gwneud honiad ynglyn ag unrywun o'r canlynol: colli pwysau, fitaminau neu mwynau ychwanegol, cynnwys maeth isel a.y.y.b; mae yna ofyniadau cyfansoddiadol penodol yn ogystal â labelu gorfodol sy'n rhaid eu dilyn - gweler isod

Labelu maeth
Oni bai bod honiadau yn cael eu gwneud am y cynnyrch fel y rhai a nodir uchod, does dim gofyniad cyfreithiol i rhoi gwybodaeth maeth. Os ydych chi'n rhoi gwybodaeth maeth, naill ai i gydymffurfio â'r rheoliadau, neu'n wirfoddol, rhaid iddynt fod mewn un o'r ddau fformat isod:

Ym mhob 100g neu ym mhob 100ml:

egni - kcal/kJ
protein - g
carbohydrad - g
braster - g

Ym mhob 100g neu ym mhob 100ml:

egni - kcal/kJ
protein - g
carbohydrad - g
sy'n siwgro - g
braster - g
sy'n dirlenwi - g
ffibr - g
sodiwm - g

Fe allwch chi roi gwybodaeth maeth ychwanegol yn y fformat hwn ar gyfer pob ddogn a bennir, fel ym mhob bisged neu ym mhob ddogn 230g.

Eithriadau
Mae yna ddarpariaethau arbennig ar gyfer bara, melysion blawd, iâ bwytadwy a llaeth gwartheg, sy'n galluogi i rai darpariaethau labelu gael eu gostwng a/neu i ychydig o wybodaeth gael ei rhoi ar hysbysiadau cysylltiedig. Mae hyn yn berthnasol pan gaiff y bwyd ei bacio gan y gwerthwr i'w werthu ar y safle hynny, neu o safle arall y gwerthwr sy'n masnachu yn ôl yr un enw, stondin marchnad neu safle symudol y gwerthwr. Gofynnir i chi ofyn am fwy o wybodaeth os mae hyn yn berthnasol i chi.

Gofynion eraill
Yn y mwyafrif o achosion, rhaid labelu bwyd gyda marc yn dangos y maint mewn ffurf fetrig. Mae'n rhaid i'r holl fwyd gydymffurfio â gofynion ynghylch olrheiniadwyedd. M ae gan rhai fwydydd ofynion penodol ynghylch labelu ar gyfer olrheiniadwyedd, fel cig eidion a mêl, ond mae angen i rai eraill ddilyn canllawiau cyffredinol er mwyn sicrhau y gwyddoch o ba gyflenwr mae bwydydd unigol wedi dod, ac i bwy rydych wedi cyflenwi'ch nwyddau, os ydynt yn mynd ymlaen i fusnes arall. Gellir gweld rhagor o wybodaeth yn nhaflen ffeithiau'r Comisiwn Ewropeaidd 'Olrheiniadwyedd bwyd'.

Noder
Bwriedir y daflen hon fel canllaw yn unig, ac nid yw'n ddehongliad awdurdodol o'r gyfraith. Y mae'n bosib bod unrhyw ddeddfwriaeth y cyfeirir ati wedi cael ei diwygio o ffurf ei deddfiad gwreiddiol, er ei bod yn parhau'n gyfredol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Deddfwriaeth berthnasol
Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
Rheoliad UE (CE) Rhif 178/2002 yn gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol ynghylch cyfraith bwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn gosod gweithdrefnau ynghylch materion diogelwch bwyd.
Rheoliadau Cyffredinol Bwyd 2004

Adolygiad/diweddariad diwethaf: Hydref 2012

© 2013 itsa Ltd on behalf of the Trading Standards Institute.

Yn ôl i'r Rhestr o Hysbysebion

RSS