A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae'r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 yn gwahardd masnachwyr rhag camarwain defnyddwyr ynghylch cynnyrch trwy roi gwybodaeth ffug neu dwyllodrus am nifer o faterion. I dorri ar fwyafrif y Rheoliadau, mae'n rhaid i'r weithred neu hepgoriad achosi, neu fod yn debygol o achosi, i'r defnyddiwr arferol wneud penderfyniad gweithrediadol gwahanol (er enghraifft, gwneud pryniad na fyddai wedi'i wneud fel arall).
Gwaherddir rhai arferion dan bob set o amgylchiadau. Mae'r Rheoliadau Diogelu Busnes rhag Marchnata Camarweiniol 2008 yn gwahardd trafodion camarweiniol rhwng busnes a busnes.
Yn y canllaw
Y ddeddfwriaeth
Beth mae'r gyfraith yn ei fynnu?
Sut y gellir rhoi gweithred neu hepgoriad camarweiniol?
Beth yw'r toriadau penodol ar y Rheoliadau (ynghylch nwyddau, gwasanaethau, hawliau ac ymrwymiadau)?
Pa ddisgrifiadau a gwmpasir gan y Rheoliadau?
Pwy all gyflawni trosedd dan y Rheoliadau?
Sut all masnachwr osgoi cyflawni trosedd?
Cosbau
Y ddeddfwriaeth
Cwmpasir y ffordd y gall busnesau ddisgrifio nwyddau a gwasanaethau gan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008. Hefyd gweler ein taflen 'Canllaw i'r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg'.
Rheoleiddir trafodion busnes i fusnes (nas trafodir yma) gan y Rheoliadau Diogelu Busnes rhag Marchnata Camarweiniol 2008. Maent yn gwahardd hysbysebu camarweiniol rhwng busnes a busnes, ac yn gosod cyfyngiadau pellach ar y ffordd mae busnesau'n cymharu eu cynhyrchion â chynhyrchion cystadleuol gan gwmnïau eraill. Gweler ein taflen 'Canllaw i'r Rheoliadau Diogelu Busnes rhag Marchnata Camarweiniol'.
Beth mae'r gyfraith yn ei fynnu?
Mae'r Rheoliadau'n cwmpasu arferion masnachol, sy'n cynnwys unrhyw weithred, hepgoriad, math o ymddygiad, cynrychiolaeth neu gyfathrebiad masnachol (gan gynnwys hysbysebu a marchnata) gan fasnachwr a gysylltir yn uniongyrchol â hyrwyddo, gwerthu neu gyflenwi cynnyrch i ddefnyddwyr. Mae'n rhaid i fasnachwr beidio â chamarwain defnyddiwr ynghylch cynnyrch (diffinir hyn yn llydan iawn ac mae'n cynnwys nwyddau, gwasanaethau, hawliau ac ymrwymiadau) mewn unrhyw ffordd trwy roi gwybodaeth ffug neu dwyllodrus am nifer o faterion penodol. Hefyd mae'n rhaid iddynt beidio â hepgor gwybodaeth am gynnyrch y byddai defnyddiwr ei hangen er mwyn gwneud penderfyniad deallus.
Dylid sylwi, i dorri ar fwyafrif y Rheoliadau, mae'n rhaid i'r weithred neu hepgoriad achosi, neu fod yn debygol o achosi, i'r defnyddiwr arferol wneud penderfyniad gweithrediadol gwahanol (fel gwneud pryniad na fyddent wedi'i wneud fel arall). Ni fwriedir y Rheoliadau i gwmpasu anghywirdebau anarwyddocaol, ond yn y pen draw dim ond llys all benderfynu a fyddai gweithredoedd masnachwr yn effeithio ar y defnyddiwr arferol mewn ffordd anffafriol. Fodd bynnag, mae rhai arferion a waherddir dan bob set o amgylchiadau - rhestrir y rhain yn ein taflen 'Canllaw i'r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg'.
Sut y gellir rhoi gweithred neu hepgoriad camarweiniol?
Gellir rhoi gweithredoedd a hepgoriadau cam arweiniol:
Ar ben hynny, os cyflenwir nwyddau mewn ymateb i gais sy'n cynnwys disgrifiad penodol (er enghraifft, mae cwsmer yn pennu eu bod eisiau gweithford gwenithfaen), mae'n bosibl y gellid honni bod cyflenwr y nwyddau wedi gweithredu'r disgrifiad eu hunain.
Beth yw'r toriadau penodol ar y Rheoliadau (ynghylch nwyddau, gwasanaethau, hawliau ac ymrwymiadau)?
Mae'n doriad ar y Rheoliadau (ac o bosibl yn dramgwydd troseddol) i ymwneud ag 'arfer fasnachol annheg'. Mae arfer yn annheg os yw y naill neu'r llall o'r dilynol:
Os byddai gweithredoedd y masnachwr yn achosi i'r defnyddiwr arferol wneud penderfyniad gweithrediadol gwahanol (o bosibl i brynu yn hytrach na pheidio â phrynu, trefnu i waith gael ei wneud neu beidio, neu dalu swm gwahanol am nwyddau). Hefyd mae'r gyfraith yn cyflwyno dyletswydd gyffredinol i beidio â masnachu'n annheg.
Gwaherddir gweithredoedd penodol dan bob set o amgylchiadau ac nid oes angen dangos effaith, neu effaith debygol, ar y defnyddiwr arferol - gweler ein taflen 'Canllaw i'r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg'. Os penderfynir ar erlyn, mae'r troseddau dan y Rheoliadau (ac eithrio'r 'ddyletswydd gyffredinol i beidio â masnachu'n annheg') yn droseddau ag atebolrwydd llym; mae hyn yn golygu ei fod yn bosibl i fasnachwr gyflawni trosedd heb fwriadu gwneud felly.
Pa ddisgrifiadau a gwmpasir gan y Rheoliadau?
Cwmpasir y materion dilynol yn benodol wrth ystyried gweithred gamarweiniol:
Pwy all gyflawni trosedd dan y Rheoliadau?
'Masnachwr', sy'n golygu unrhyw berson sydd, mewn cysylltiad ag arfer fasnachol, yn gweithredu at ddibenion sy'n perthyn i'w fusnes, ac unrhywun sy'n gweithredu yn enw masnachwr neu ar ei ran. Byddai hyn yn cynnwys cyfarwyddwyr, rheolwyr a phob lefel o gyflogeion.
Sut all masnachwr osgoi cyflawni trosedd?
Mae'r Rheoliadau'n darparu amddiffyniad i fasnachwr bod y drosedd wedi'i cyflawni oherwydd camgymeriad, neu ddibyniad ar wybodaeth a roddwyd iddynt, neu weithred neu ddiffyg person arall, damwain neu ryw achos arall y tu hwnt i reolaeth y masnachwr - a'u bod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi ymarfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r fath drosedd eu hunain neu gan unrhyw berson dan eu rheolaeth.
Mewn termau syml, mae hyn yn golygu y dylai proses fodoli i osgoi arferion masnachol annheg, ac y dylai'r broses gael ei dilyn gan bob cyflogai.
Mae taflen gyfarwyddyd arall ar gael ar gamau penodol y gellir eu cymryd, ynghylch arddangosfeydd odomedr ar gerbydau ail law (gweler y daflen 'Millltiredd cerbydau ail law').
Cosbau
Mae methu â chydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 yn dramgwydd troseddol. Y gosb fwyaf ar gollfarn yn Llys yr Ynadon yw dirwy o £5,000 i bob trosedd. Y gosb fwyaf ar gollfarn yn Llys y Goron yw dirwy ddiderfyn ac/neu ddwy flynedd yn y carchar.
Mae'n debygol y bydd prynwyr nwyddau/gwasanaethau a gamddisgrifiwyd yn ceisio iawndal trwy'r llysoedd sifil. Hefyd efallai y bydd gorfodwyr yn dwyn achos sifil dan y Ddeddf Fenter 2002, a allai gynnwys gorchymyn llys i sicrhau bod busnes yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth yn y dyfodol.
Noder
Bwriedir y daflen hon fel canllaw yn unig, ac nid yw'n ddehongliad awdurdodol o'r gyfraith. Y mae'n bosib bod unrhyw ddeddfwriaeth y cyfeirir ati wedi cael ei diwygio o ffurf ei deddfiad gwreiddiol, er ei bod yn parhau'n gyfredol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Deddfwriaeth berthnasol
Deddf Fenter 2002
Rheoliadau Diogelu Busnes rhag Marchnata Camarweiniol 2008
Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008
Adolygiad/diweddariad diwethaf: Tachwedd 2012
© 2013 itsa Ltd on behalf of the Trading Standards Institute.