A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Hawliau Defnyddwyr

Y gyfraith sifil yn ymwneud â gwerthu a chyflenwi cynnyrch

Mae'r ddogfen hon yn ganllaw i'r hawliau a'r rhwymedigaethau sy'n codi pan fydd defnyddiwr yn prynu nwyddau gan fasnachwr. Mae'n ateb cwestiynau sy'n codi'n aml gan fasnachwyr am eu cyfrifoldebau at y defnyddiwr unigol.

Mae rheolau ychwanegol ar gyfer cytundebau sy'n cynnwys unrhyw fath o gredyd neu fenthyciad, ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn y ddogfen hon.

Yn y canllaw
Beth yw defnyddiwr?
Llunio cytundeb
Telerau ymhlyg
Datrys tor-cytundeb
Eithriadau - pan na all y defnyddiwr wneud hawliad
Deddfau eraill sy'n effeithio ar gytundebau defnyddwyr
Cwestiynau cyffredin

Beth yw defnyddiwr?
O dan Reoliadau Gwerthu a Chyflenwi Nwyddau i Ddefnyddwyr 2002, diffinnir defnyddiwr fel 'person naturiol [...] sy'n gweithredu y tu allan i'w fasnach, busnes neu broffesiwn'.

Llunio cytundeb
Y CYTUNDEB
Pan fydd defnyddiwr yn prynu nwyddau a/neu wasanaethau gan fasnachwr, bydd y defnyddiwr a'r masnachwr yn gwneud cytundeb a fwriedir i fod yn gyfreithiol-rwyn. Gall y cytundeb gynnwys amrywiaeth o delerau pendant a thelerau ymhlyg. Telerau pendant yw'r rhai y bydd y ddau barti yn cytuno arnynt yn benodol - er enghraifft, y pris yn achos y rhan fwyaf o gytundebau, neu ddyddiad danfon y nwyddau. Telerau ymhlyg yw'r rhai yr ystyrir eu bod yn bodoli, hyd yn oed os na chytunir arnynt yn benodol - maent yn cynnwys materion megis ansawdd, disgrifiad ac addasrwydd eitem i'w diben (cyfeirir atynt fel hawliau'r defnyddiwr neu hawliau statudol fel arfer).

Gelwir methiant i gydymffurfio â thelerau cytundeb fod yn dor-cytundeb, ac fel arfer, bydd angen i'r sawl sy'n torri'r cytundeb ei gywiro mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.Er mwyn i un o'r telerau pendant fod yn orfodol, bydd rhaid iddo fod yn rhan amlwg o'r cytundeb ac yn gyfreithlon. Nid yw telerau a roddir i'r defnyddiwr ar ôl llunio'r cytundeb (er enghraifft, telerau wedi'u hysgrifennu ar gefn derbynneb yn unig) yn rhan o'r cytundeb ac nid oes ganddynt unrhyw effaith.

Nid oes rhaid llunio cytundeb ysgrifenedig, ond lle bydd telerau pendant allweddol, bydd nodi'r rhain mewn ysgrifen yn syniad da i atal anghydfodau diweddarach.

SUT CAIFF Y CYTUNDEB EI LUNIO?
Elfen hanfodol llunio cytundeb yw'r weithred o gytuno (sef gwneud a derbyn cynnig). Bydd angen dau barti (megis y masnachwr a'r defnyddiwr). Bydd un ohonynt (y cynigiwr) yn gwneud cynnig a dderbynnir gan y llall (y derbyniwr). Mae cynnig yn ddatganiad o barodrwydd i wneud cytundeb a bwriedir i'r cynigiwr fod yn rhwym wrth y cytundeb pan gaiff ei dderbyn gan y derbyniwr.

Mae cynnig dilys yn wahanol i 'wahoddiad i drafod', lle bydd y masnachwr yn gwahodd cynigion y gall y defnyddiwr dderbyn neu wrthod.

Pan fydd masnachwr yn arddangos neu'n hysbysebu nwyddau neu wasanaethau (er enghraifft, trwy arddangos nwyddau ar silff mewn siop wrth ymyl tocyn pris) bydd yn cynnig yr hyn a elwir yn 'wahoddiad i drafod' i ddefnyddiwr. Yna, gall y defnyddiwr gynnig prynu'r nwyddau neu'r gwasanaethau. Ar yr adeg hon, ni fydd y masnachwr wedi'i ymrwymo i dderbyn y cynnig - gwneir cytundeb os a phryd bydd y masnachwr yn derbyn y cynnig.

Weithiau, bydd y broses yn gweithio'n groes - hynny yw, bydd y masnachwr yn gwneud cynnig i'r defnyddiwr, a gwneir cytundeb pan fydd y defnyddiwr yn derbyn y cynnig.

Bydd y defnyddiwr yn cytuno i dalu swm o arian i'r masnachwr yn unol â'r cytundeb, a/neu'n gwneud rhywbeth arall yn lle'r nwyddau neu'r gwasanaethau a gyflenwir gan y masnachwr. Gelwir yr ymrwymiad hwn yn 'ystyriaeth' yn y cytundeb. Os na fydd ystyriaeth h.y. os bydd masnachwr yn cynnig cyflenwi nwyddau neu wasanaethau yn rhad ac am ddim heb unrhyw rwymedigaeth, ni fydd cytundeb o gwbl.

BETH SY'N DIGWYDD PAN FYDD DEFNYDDIWR YN NEWID EI FEDDWL?
Fel arfer, ni fydd gan y defnyddiwr hawl awtomatig i newid ei feddwl a chanslo cytundeb. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y defnyddiwr yn torri'r cytundeb. Fodd bynnag, bydd hawl awtomatig i ganslo mewn rhai achosion neilltuol, yn cynnwys y rhan fwyaf o gytundebau â defnyddwyr a wneir o bell (er enghraifft, archebion trwy'r post neu ar y Rhyngrwyd) neu yng nghartref ydefnyddiwr (darllenwch ein taflen 'Gwerthu o bell (ar y Rhyngrwyd, dros y ffon, trwy'r post ayyb)' a 'Canllaw masnachwr i gytundebau a wneir yng nghartref neu fan gwaith defnyddwyr'.

Pan fydd y defnyddiwr yn canslo'r cytundeb ar gam, efallai na fydd y masnachwr yn gallu adfer y gwerthiant a gollwyd, ac yn sgil hynny, byddai'r masnachwr yn gallu hawlio am golli enillion ac unrhyw gostau rhesymol eraill y bydd rhaid iddo'u talu.

Y telerau ymhlyg
Mae'r gyfraith yn darparu bod telerau penodol ymhlyg mewn unrhyw drafodion yn ymwneud â chyflenwi nwyddau (yn cynnwys hurbwrcas, llogi, amnewid rhannau a chytundebau am waith a deunyddiau).

Bydd rhaid i'r sawl sy'n trosglwyddo neu'n gwerthu'r nwyddau fod â'r hawl i wneud hynny, a bydd rhaid i'r nwyddau:

- Gyd-fynd â'u disgrifiad: Bydd llawer o drafodaethau busnes yn cynnwys rhyw fath o ddisgrifiad. Pan gaiff nwyddau eu cyflenwi a phan fydd defnyddiwr yn dibynnu ar ddisgrifiad o'r fath, bydd rhaid i'r nwyddau fod fel y'i disgrifir'. Os bydd y disgrifiad yn ffug, efallai bydd tramgwydd troseddol wedi digwydd hefyd.

- Bod o ansawdd dderbyniol:Rhaid i nwyddau fod o ansawdd y gwnâi person rhesymol ei ystyried yn foddhaol (gan ystyried unrhyw ddisgrifiad a gafwyd, y pris ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill). Mae ansawdd yn derm cyffredinol sy'n cynnwys nifer o faterion, megis:

  • golwg a gorffeniad
  • bod yn rhydd rhag mân ddiffygion
  • diogelwch
  • gwydnwch

Wrth asesu ansawdd, bydd rhaid ystyried pob ystyriaeth berthnasol, yn cynnwys y pris a'r disgrifiad. Yn achos cytundebau defnyddiwr, gellir ystyried yr hysbyseb hefyd.

- Addasrwydd i'w diben:Pan fydd defnyddiwr yn dynodi bod angen nwyddau ar gyfer pwrpas penodol neu pan fydd hi'n amlwg fod nwyddau wedi'u bwriadu ar gyfer pwrpas penodol, a bydd masnachwr yn eu cyflenwi i ddiwallu'r gofynion hynny, dylai'r nwyddau fod yn addas i'r diben a nodwyd.

Datrys tor-cytundeb
Gall ddefnyddiwr wrthod nwyddau os na fydd wedi'u derbyn (yn achos cytundeb gwerthiant), neu ar yr amod nad yw wedi cadarnhau'r cytundeb (yn achos cytundebau eraill ble trosglwyddir nwyddau, megis llogi, hurbwrcas neu gytundebau am waith neu ddeunyddiau). Caiff derbyniad a chadarnhad eu diffinio isod.

Pan fydd defnyddiwr yn gwrthod nwyddau, gall hawlio iawndal am ei golledion. Bydd hyn fel arfer yn arwain at ad-daliad llawn, yn ogystal ag iawndal am unrhyw golledion rhagweladwy a ddaw i'w ran. Efallai bydd y colledion hyn yn cynnwys y gost unrhyw ddifrod i eiddo a achoswyd gan y nwyddau, iawndal am niwed personol ac iawndal am y gost o brynu nwyddau cyfwerth os byddant yn ddrutach yn rhywle arall. Caiff y defnyddiwr hefyd ei rhyddhau o'i rwymedigaethau sy'n weddill o dan y cytundeb - er enghraifft, y taliadau sy'n weddill mewn cytundeb hurbwrcas.

Os bydd defnyddiwr yn prynu nwyddau at ddefnydd busnes, nid fydd yn gallu gwrthod y nwyddau os bydd y tor-cytundeb yn un bychan iawn, ond bydd yn dal i fod mewn sefyllfa i allu hawlio iawndal.

BETH YW DERBYNIAD A CHADARNHAD?
Pa fydd derbyniad neu gadarnhad yn digwydd, bydd y defnyddiwr yn colli'r hawl i wrthod nwyddau, er mae'n bosib y bydd yn cadw'r hawl i gael iawndal neu rwymedi arall.

Bydd derbyniad yn berthnasol yn achos cytundebau ar gyfer nwyddau a werthir yn unig. Dyma enghreifftiau o dderbyniad:

  • y defnyddiwr yn dweud wrth y masnachwr ei fod wedi derbyn y nwyddau
  • addasu'r nwyddau mewn rhyw ffordd
  • cadw'r nwyddau am gyfnod hirach na'r hyn sy'n rhesymol heb wneud cwyn (gall y cyfnod hwn amrywio yn ôl natur y nwyddau, ac nid yw wedi'i ddiffinio'n bendant gan y gyfraith)
  • defnyddio'r nwyddau ar ôl cwyno

Ni ystyrir fod defnyddiwr wedi derbyn y nwyddau am iddo adael i'r masnachwr geisio'u trwsio, neu am iddo lofnodi nodyn derbyn neu nodyn cludo. Bydd rhaid i ddefnyddiwr gael cyfle rhesymol i archwilio'r nwyddau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r cytundeb, cyn y gellir tybio ei fod wedi'u derbyn.

Bydd cadarnhad yn berthnasol mewn cytundebau eraill ar gyfer trosglwyddo nwyddau, yn cynnwys llogi, hurbwrcas neu gytundebau am waith neu ddeunyddiau. Bydd cadarnhad yn digwydd pan fydd y defnyddiwr, gan wybod fod tor-cytundeb wedi digwydd, yn penderfynu cadw'r nwyddau a pheidio â'u gwrthod. Gall cadarnhad ddigwydd os daw defnyddiwr yn ymwybodol o dor-cytundeb, ond ni fydd yn cwyno o fewn cyfnod rhesymol.

RHWYMEDIAU PAN NA ALL DEFNYDDIWR WRTHOD Y NWYDDAU
Pan fydd tor-cytundeb yn digwydd, ond bydd y defnyddiwr wedi colli ei hawl i wrthod nwyddau, bydd ganddo'r hawl i geisio iawndal gan y masnachwr. Yr iawndal yw'r cyfanswm y byddai angen ei dalu i wneud iawn am y tor-cytundeb. Byddai hyn, fel arfer, yn gost atgyweirio neu amnewid y nwyddau, neu'n ad-daliad rhannol, yn ogystal ag iawndal am unrhyw golledion eraill a gafwyd.

Lle byddai atgyweirio neu amnewid nwyddau yn gwneud iawn am y tor-cytundeb, a byddai'r masnachwr yn cynnig un o'r rhain i'r defnyddiwr, fel arfer, byddai disgwyl i'r defnyddiwr dderbyn un ohonynt.

RHWYMEDIAU ERAILL I DDEFNYDDWYR SY'N BRYNWYR
O dan Reoliadau Gwerthu a Chyflenwi Nwyddau i Ddefnyddwyr 2002, gellir defnyddio rhwymediau eraill lle bydd y prynwr yn gweithredu fel defnyddiwr (gweler y diffiniad ar ddechrau'r ddogfen hon) mewn contractau ar gyfer gwerthu neu gyflenwi nwyddau (ond nid mewn cytundebau yn ymwneud â llogi a hurbwrcas). O dan yr amgylchiadau hynny, efallai y gall y cwsmer fynnu unrhyw un o'r canlynol:

  • cael trwsio neu amnewid y nwyddau
  • gostwng y pris i swm penodol gan ystyried y diffyg
  • diddymu'r cytundeb (hynny yw, dychwelyd y nwyddau, ad-daliad rhannol neu lawn, ac iawndal, os bydd hynnyn briodol)

Os bydd y defnyddiwr yn dewis un o'r rhwymediau hyn, a bydd diffyg wedi'i ganfod o fewn chwe mis ar ôl cludo'r nwyddau iddo, tybir yn awtomatig fod y diffyg ar y nwyddau ar adeg eu cludo, oni bydd y masnachwr yn gallu profi i'r gwrthwyneb. Os bydd mwy na chwe mis wedi mynd heibio, bydd rhaid i'r defnyddiwr brofi bod y diffyg hwn ar y nwyddau pan gawsant eu cludo iddo (hyd yn oed os nad oedd hynny'n amlwg ar y pryd).

Os bydd y defnyddiwr yn dewis cael atgyweirio neu amnewid y nwyddau, bydd rhaid i'r masnachwr wneud hynny o fewn cyfnod rhesymol a heb anghyfleustra sylweddol i'r defnyddiwr. Bydd rhaid i'r masnachwr dalu'r holl gostau perthnasol hefyd - er enghraifft, llafur, tâl post, ayyb.

Lle bydd defnyddiwr yn mynnu cael atgyweirio neu amnewid nwyddau, ond byddai hynny'n anghymesur, yna byddai gan y masnachwr hawl i gynnig un o'r rhwymediau eraill iddo. Er enghraifft, os bydd y defnyddiwr yn mynnu cael trwsio'r nwyddau, ond byddai amnewid yr eitem yn rhatach na'i drwsio, gallai'r masnachwr gynnig amnewid yr eitem. Gallai'r defnyddiwr gael gostyngiad neu ddiddymiad lle byddai cost trwsio neu amnewid eitem yn anghymesur, ne lle na chaiff eitem ei hatgyweirio/amnewid o fewn cyfnod rhesymol. (Ystyr diddymiad yw'r masnachwr a'r derbyniwr yn cytuno i ddiddymu'r cytundeb, ac adferir y sefyllfa a fodolai cyn gwneud y cytundeb)

Eithriadau - pan na all y defnyddiwr wneud hawliad
Nid fydd gan ddefnyddiwr unrhyw hawliau o ran diffygion a gaiff eu dwyn i'w sylw cyn gwerthu eitem iddo, neu os bydd y defnyddiwr yn archwilio'r nwyddau cyn eu prynu a dylai unrhyw ddiffygion fod wedi bod yn amlwg.

Ni fydd defnyddiwr yn gallu hawlio am unrhyw ddifrod a achosir ganddo, neu os bydd yn newid ei feddwl am brynu nwyddau.

Ni all defnyddiwr wneud hawliad ychwaith os bydd yn dewis y nwyddau at ddibenion na fydd yn amlwg na heb eu hysbysu i'r masnachwr, ac yna'n canfod fod yr eitem yn anaddas i'r dibenion hynny.

Ni fydd gan ddefnyddiwr unrhyw hawl i wneud hawliad am ddiffygion a fydd yn ymddangos yn sgil traul arferol.

Deddfau eraill sy'n effeithio ar gytundebau â chwsmeriaid
DARPARU GWASANAETHAU
Rhaid i unrhyw wasanaeth a ddarperir gennych gael ei wneud:

  • â medr a gofal rhesymol
  • am bris rhesymol (oni bydd y pris wedi'i gytuno arno)
  • o fewn amser rhesymol (oni bydd yr amser yn un o'r telerau pendant - hynny yw, cytunir ar ddyddiad cwblhau pan wneir y contract)

COLLED NEU DDIFROD WRTH GLUDO NWYDDAU
Os bydd y masnachwr yn trefnu i gludo nwyddau i ddefnyddiwr, y masnachwr fydd yn gyfrifol amdanynt nes byddant wedi'u danfon. Felly, cyfrifoldeb y masnachwr fydd sicrhau na chaiff nwyddau eu colli na'u difrodi wrth eu cludo, a threfnu polisi yswiriant addas.

CAMLIWIO
Mae camliwio yn ddatganiad ffug o ffaith a wneir gan unigolyn neu ei asiant a fydd yn denu rhywun arall i wneud cytundeb ag ef.

Yn dibynnu a wneir y camliwiad trwy dwyll, trwy esgeulustod neu'n anfwriadol, efallai bydd gan y parti a wnaeth ddibynnu ar y camliwiad yr hawl i fynnu rhwymedi a allai gynnwys diddymiad, ad-daliad a/neu iawndal.

DEDDF TELERAU CYTUNDEB ANNHEG 1977
Mae'r ddeddfwriaeth hon yn cyfyngu ar allu masnachwr i ddefnyddio telerau cytundeb i leihau ei atebolrwydd cyfreithiol a chytundebol. Ni all masnachwr leihau nac eithrio  ei atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol yn deillio o'i esgeulustod.

Mewn cytundebau defnyddiwr, ni all masnachwyr leihau neu eithrio ei atebolrwydd am dorri'r telerau ymhlyg sy'n ymwneud â disgrifiad, ansawdd ac addasrwydd nwyddau i'w diben. Yn ogystal â hyn, byddai unrhyw ymgais i gamarwain y defnyddiwr am ei hawliau yn drosedd o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008. (Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys dyletswyddau masnachwyr tuag at ddefnyddwyr yn gyffredinol- darllenwch ein taflen 'Canllaw i Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg'.)

Yn achos cytundebau rhwng busnesau,gellir cyfyngu ar yr atebolrwydd o ran y telerau sydd ymhlyg, ond dim ond i'r graddau y bo hynny'n rhesymol, o ystyried yr holl amgylchiadau oedd yn bodoli wrth wneud y cytundeb(gweler ein taflen 'Canllaw i Reoliadau Diogelu Busnesau rhag Marchnata Camarweiniol').

RHEOLIADAU TELERAU ANNHEG MEWN CYTUNDEBAU DEFNYDDWYR 1999
Mae'r rheoliadau hyn, sy'n berthnasol i gytundebau defnyddwyr, yn datgan na fydd defnyddiwr yn rhwym wrth delerau safonol cytundeb â masnachwr os bydd y telerau hynny'n annheg. Mae enghreifftiau o delerau annheg yn cynnwys:

  • cymalau cosb sy'n galluogi'r masnachwr i hawlio mwy na'i wir golledion pan fydd defnyddiwr yn torri'r cytundeb
  • telerau sy'n aneglur neu'n annealladwy
  • telerau sy'n eithrio atebolrwydd am dor-cytundeb
  • telerau sy'n atal hawliau cyfreithiol defnyddiwr am beidio cydymffurfio ag arferion yn ymwneud â'r amser neu'r dull o wneud yr hawliad (er enghraifft, gwneud cwyn ysgrifenedig a anfonir trwy'r post cofrestredig)
  • rhoi'r hawl i'r masnachwr wneud y penderfyniad olaf mewn anghydfod

Nid yw'r rheoliadau yn berthnasol i delerau y cytunwyd arnynt â defnyddwyr unigol, ac nid ydynt ychwaith yn berthnasol i faterion craidd y cytundeb (megis disgrifiad o'r nwyddau/gwasanaethau a'r pris).

DEDDF DIOGELU DEFNYDDWYR 1987 (RHAN 1)
Mae'r ddeddfwriaeth hon yn caniatáu i unigolyn hawlio iawndal os caiff ei anafu gan nwyddau diffygiol. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gellir hawlio yn erbyn unrhyw un yn y gadwyn gyflenwi, o'r gwneuthurwr/mewnforiwr i'r adwerthwr.

Gellir hefyd hawlio iawndal o dan y Ddeddf hon am ddifrod i eiddo personol (ond nid difrod i eiddo busnes).

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein taflen 'Nwyddau anniogel - atebolrwydd am anaf neu ddifrod'.

DEDDF CYTUNDEBAU (HAWLIAU TRYDYDD PARTI) 1999
Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi hawliau i unrhyw un a oedd i elwa o drafodion busnes. Er enghraifft, os bydd rhywun yn prynu anrheg i ffrind a'r anrheg hwnnw'n ddiffygiol, gall derbynnydd neu brynwr yr anrheg gymryd camau cyfreithiol am dor-cytundeb (cyn belled â'i bod wedi'i gwneud yn glir fod y nwyddau wedi'u rhoi yn anrheg).

ENW'R MASNACHWR
Bydd ar y defnyddiwr angen gwybod neu allu darganfod pwy yw'r sawl y mae'n delio ag ef. Rhaid arddangos enw a chyfeiriad masnachwr yn safle'r busnes, a dogfennau busnes allweddol ac ar wefannau. Bydd rhaid i'r manylion hyn hefyd fod ar gael i ddefnyddwyr cyn y gwneir cytundeb a phryd bynnag y bydd y defnyddiwr yn gofyn am weld y manylion. Darllenwch ein taflen 'Cwmnïau ac enwau busnes'.

Os bydd masnachwr yn methu â datgelu ei fod yn gwmni cyfyngedig, ac yna, bydd tor-cytundeb, mae'n bosib y gall y defnyddiwr wneud hawliad yn erbyn cyfarwyddwyr y busnes fel unigolion. Os bydd masnachwr yn methu â datgelu ei fod yn gweithio fel asiant i rywun arall, efallai y gall y defnyddiwr wneud hawliad uniongyrchol yn erbyn y masnachwr hwnnw.

NWYDDAU HEB EU CASGLU
Yn achlysurol, bydd defnyddwyr yn methu â chasglu eu nwyddau ar ôl mynd â hwy i gael eu trwsio, neu'n anghofio casglu dillad a gaiff eu sychlanhau.

Mae Adran 12 Deddf Camweddau (Ymyrryd â Nwyddau) 1997 yn nodi beth ddylai masnachwyr ei wneud i drefnu bod y nwyddau'n cael eu casglu, ac mae'n egluro'n glir beth allant ei wneud os na chesglir y nwyddau.

Mae'n ddigon cael hysbysiad sy'n hawdd i ddefnyddwyr ei weld, yn nodi am faint y bydd masnachwr yn cadw nwyddau ar ôl eu hatgyweirio, ac yn nodi'r bwriad i gael gwared arnynt wedi'r cyfnod hwn. Byddai'n rhaid i'r cyfnod hwn fod yn rhesymol.

Os nad oes arwydd wedi'i arddangos, efallai bydd angen i'r masnachwr anfon llythyr cofrestredig at y defnyddiwr yn nodi fod y nwyddau'n barod i'w casglu a'r man ble ddylid eu casglu. Os bydd y masnachwr yn bwriadu gwerthu neu gael gwared ar y nwyddau wedi dyddiad penodol, dylid rhoi hysbysiad ychwanegol am hynny hefyd, a datgan sut y gellir casglu enillion ychwanegol y gwerthiant.

Cwestiynau Cyffredin
C.
Nid oes gan y defnyddiwr dderbynneb - a oes rhaid i'r masnachwr wneud unrhyw beth, hyd yn oed os bydd y nwyddau'n ddiffygiol?
A. Nid oes gofyniad cyfreithiol i'r defnyddiwr ddangos derbynneb. Os na fydd y masnachwr yn cofio'r defnyddiwr yn prynu'r eitem, gall ofyn i'r defnyddiwr gynnig tystiolaeth i ddangos ei fod wedi'i brynu, ond gall hyn fod yn daleb cerdyn credyd neu fonyn siec neu unrhyw beth sy'n dangos pryd a lle prynwyd yr eitem

C. Mae'r gwneuthurwr yn cynnig gwarant - a yw'r masnachwr yn gallu atgyfeirio'r defnyddiwr yn syth at y gwneuthurwr?
A. Cofiwch fod hawliau statudol y defnyddiwr yn gorwedd gyda'r masnachwr a werthodd y nwyddau iddo. Mae gwarant a gynigir gan y gwneuthurwr yn ychwanegol at hawliau o'r fath. Gall y defnyddiwr ddewis delio â'r masnachwr neu'r gwneuthurwr. Fodd bynnag, yn unol â hyn, efallai y gall y masnachwr hawlio yn erbyn ei gyflenwr.

C. Os bydd masnachwr yn gwerthu nwyddau ar sêl neu nwyddau 'bron yn berffaith' - oni fyddai hynny'n golygu na fydd gan y defnyddiwr yr un hawliau yn erbyn y masnachwr a phe byddai wedi prynu nwyddau newydd neu berffaith?
A. Bydd yr un hawliau'n weithredol os gwerthir nwyddau mewn sêl neu nwyddau 'bron yn berffaith'. Wrth asesu lefel yr ansawdd sy'n foddhaol, dylid ystyried ffactorau megis pris, oedran a diffygion y gellir eu gweld yn amlwg.

C. Mae defnyddiwr yn dychwelyd at y masnachwr i gwyno am nwyddau diffygiol a brynodd saith mlynedd yn ôl. A oes rhaid i'r masnachwr wneud unrhyw beth?
A. Ni all defnyddiwr fynd â hawliad i'r llys fwy na chwe blynedd wedi i'r tor-cytundeb ddigwydd (dyddiad danfon y nwyddau fel arfer, yn achos cytundeb i werthu nwyddau).

C. Mae rhywun yn gofyn i fasnachwr am ddyfynbris - sut mae hwn yn wahanol i amcangyfrif?
A. Bydd dyfynbris fel arfer yn bris sefydlog, tra bod amcangyfrif yn gyffredinol yn golygu dyfaliad bras o gost y gwaith.

C. A all masnachwr roi hysbysiad yn ei siop yn datgan na roddir ad-daliadau o dan unrhyw amgylchiadau?
A. Mae ceisio atal hawliau statudol defnyddiwr yn anghyfreithlon, felly ni chaniateir hysbysiad sy'n datgan 'dim ad-daliadau'. Efallai bydd masnachwr yn dymuno cynnig telerau haelach na'r rhai sy'n ofynnol gan y gyfraith, a chynnig polisi amnewid nwyddau neu ad-daliad i gwsmeriaid sy'n newid eu meddwl. Gall masnachwr godi arwydd sy'n cynnig manylion polisi o'r fath, ond argymhellir y dylai'r masnachwr gael cyngor am eiriad yr arwydd gan ei wasanaeth safonau masnach lleol. Darllenwch ein taflen busnes, 'Polisïau dychwelyd nwyddau - canllaw i adwerthwyr'.

C. Mae defnyddiwr yn ffonio masnachwr i ddweud fod y teledu a brynodd ganddo'r wythnos flaenorol yn ddiffygiol, ond nid yw'n fodlon ei ddychwelyd i'r siop. A all y masnachwr fynnu fod y defnyddiwr yn ei ddychwelyd?
A. Os all y defnyddiwr brofi bod yr eitem yn ddiffygiol ac nad yw wedi'i derbyn, byddai hysbysu'r masnachwr ei fod yn gwrthod yr eitem a rhoi cyfle rhesymol iddo gasglu'r teledu yn ddigonol. Efallai y byddai'r defnyddiwr yn fodlon dychwelyd yr eitem i'r masnachwr os byddai'r masnachwr yn cynnig talu costau teithio a pharcio'r defnyddiwr, ond nid oes rhaid i'r defnyddiwr wneud hyn. 

C. Mae masnachwr yn rhoi nodyn credyd i ddefnyddiwr ond ni all ganfod unrhyw beth y mae arno'i eisiau. A oes rhaid i'r masnachwr gynnig ad-daliad o dan yr amgylchiadau hyn, ac am faint ddylai nodyn credyd bara? A all masnachwr roi nodyn credyd yn lle ad-daliad?
A. Rhaid i fasnachwr gadw hawliau'r defnyddiwr mewn cof, felly os dychwelir nwyddau diffygiol, mae'n bosibl y bydd gan y defnyddiwr hawl i fynnu cael ad-daliad yn hytrach na nodyn credyd yn y lle cyntaf. Gall masnachwr gynnig nodyn credyd os na fydd rhaid iddo unioni'r sefyllfa (er enghraifft, os bydd defnyddiwr wedi newid ei feddwl ar ôl prynu). Fodd bynnag, os bydd y defnyddiwr wedi cytuno i gael nodyn credyd, hyd yn oed os na ellir ei ddefnyddio, ni fydd rhaid i'r masnachwr gynnig ad-daliad. Gall y masnachwr bennu dyddiad dibennu'r nodyn credyd os bydd yn hysbysu'r defnyddiwr am y dyddiad hwn wrth roi'r nodyn credyd iddo.

C. Mae defnyddiwr yn mynnu cael amnewid eitem, ond ni chynhyrchir yr eitem bellach, ac nid oes rhagor ohonynt mewn stoc.
A. Gall masnachwr gynnig atgyweirio'r eitem, gostyngiad mewn pris neu ganiatáu i'r defnyddiwr ddiddymu'r cytundeb. Os bydd atgyweirio'r eitem yn achosi anghyfleustra sylweddol i'r defnyddiwr, ni fydd hyn yn ddewis derbyniol.

C. Nid yw masnachwr yn gallu penderfynu a yw eitem yn ddiffygiol neu wedi methu yn sgil camddefnydd. Beth ddylai ei wneud?
A. Os bydd defnyddiwr yn dymuno gwrthod yr eitem, ei gyfrifoldeb ef fydd profi fod yr eitem yn ddiffygiol a heb ei gamddefnyddio. Os bydd defnyddiwr yn gofyn am gael atgyweirio neu amnewid yr eitem (gweler y rhwymediau ychwanegol ar gyfer prynwyr a defnyddwyr, uchod) o fewn chwe mis o'i derbyn, cyfrifoldeb y masnachwr fydd profi fod y defnyddiwr ar fai. Ar ôl chwe mis, bydd y cyfrifoldeb ar ysgwyddau'r defnyddiwr unwaith yn rhagor. Mewn unrhyw achos, os na all y masnachwr gytuno ar y rheswm wrth wraidd y diffyg, efallai bydd yn dymuno gofyn am ail farn - er enghraifft, gan y gwneuthurwr neu arbenigwr annibynnol. Os defnyddir arbenigwr annibynnol, dylai'r defnyddiwr a'r masnachwr gytuno mewn ysgrifen i wneud hyn.

C. Mae defnyddiwr yn pennu dyddiad penodol ar gyfer danfon nwyddau ac ni all y masnachwr eu cludo ato mewn pryd - oes gan y defnyddiwr yr hawl i ganslo'r cytundeb?
A. Oes - os bydd y defnyddiwr wedi pwysleisio bod 'amser yn hanfodol' a'r masnachwr yn methu â chydymffurfio, gall y defnyddiwr ystyried fod hyn yn dor-cytundeb a gall ganslo'r cytundeb.

Noder
Bwriedir y daflen hon fel canllaw yn unig, ac nid yw'n ddehongliad awdurdodol o'r gyfraith. Y mae'n bosib bod unrhyw ddeddfwriaeth y cyfeirir ati wedi cael ei diwygio o ffurf ei deddfiad gwreiddiol, er ei bod yn parhau'n gyfredol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Deddfwriaeth berthnasol


Deddf Camweddau (Ymyrryd â Nwyddau) 1977
Deddf Telerau Cytundeb Annheg 1977
Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987
Deddf Cytundebau (Hawliau Trydydd Parti) 1999
Rheoliadau Telerau Annheg mewn Cytundebau Defnyddwyr 1999
Rheoliadau Gwerthu a Chyflenwi Nwyddau i Ddefnyddwyr 2002
Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008

Adolygiad/diweddariad diwethaf: Ebrill 2012 

© 2013 itsa Ltd on behalf of the Trading Standards Institute.

Yn ôl i'r Rhestr o Hysbysebion

RSS