A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Cofrestrau Etholwyr, Rhydd-ddeiliaid a Rhestrau Rheithwyr

Bydd y ddolen hon yn eich trosglwyddo i ffeil pdf sy'n cynnwys manylion y cofrestrau etholiadol sydd gennym. 

Daliadau Cofrestrau Etholiadol

146 K

Yn Neddf Uno 1536,  deddfwyd y dylid dewis dau aelod seneddol ar gyfer pob un o'r siroedd newydd ""one Knight shall be chosen and elected ...for every of the shires of Brecknock, Radnor [and] Montgomery ...and for every borough being a Shire-town".  Parhaodd hyn tan ddiwygiad 1885, pan cwtogwyd nifer yr Aelodau Seneddol i un i bob Sir.  Yn 1918 cyfunwyd etholaethau Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed i greu cyd-etholaeth Brycheiniog a Maesyfed, gan ethol un Aelod Seneddol rhyngddynt.

Yn Sir Faesyfed, tref Maesyfed oedd y brif ganolfan etholiadol i'r bwrdeistrefi, sef tref Maesyfed ei hun, Tref-y-Clawdd, Cnwclas, Cefnllys a Rhaeadr.  Ni ychwanegwyd Llanandras at y rhestr o fwrdeistrefi tan 1832, ond serch hynny y dref hon oedd canolfan etholiadol y Sir, gan barhau felly tan i Sir Faesyfed golli ei sedd annibynnol yn 1918.

Rhyddfreiniwyd gweithwyr amaethyddol yn 1884 gan roi'r hawl iddynt fwrw pleidlais.   Cafodd ffermwyr tenant yr hawl i bleidleisio yn 1832, ond dim ond yn yr etholiadau hynny i'r bwrdeistrefi os yr oeddynt hefyd yn fwrdeiswyr.  I ddod yn fwrdais, roedd rhaid i ddyn gael ei ethol gan rheithgor o fwrdeiswyr, yn gwasanaethu o dan feili neu ddirprwy stiward y faenor.  Nid oedd gwahaniaeth os oedd yn byw yn y bwrdeistref oedd yn ei ethol ai peidio, heblaw am fwrdeistref Maesyfed, lle roedd gofyn iddo fyw yno ar adeg yr etholiad.  Nifer yr etholwyr cofrestredig ar gyfer bwrdeistrefi Sir Faesyfed oedd 529 yn 1832; 500 yn 1841; 978 yn 1874 a 886 yn 1884.

Fe allai Rhydd-ddeiliaid bleidleisio dros yr AS i gynrychioli'r Sir, ac roedd y fraint o fod yn berchen ar rhyddfraint ar gyfer y diben hwnnw yn un pwysig iawn (dyma gyhoeddiad yn yr Hereford Journal yn 1849 "A vote for the County of Radnor and a freehold property may be had for a sovereign").  Roedd y fraint o fod yn fwrdais yr un mor werthfawr, a cheir tystiolaeth y cafodd hyn ei ennill trwy ddulliau tebyg i lwgrwobrwyo a llygru.   Mae llyfrau Rhydd-ddeiliaid yn cofnodi rhestrau o rydd-ddeiliaid sy'n gymwys i bleidleisio.  Yr un fath, nid pawb oedd yn gallu gwasanaethu ar Reithgor a chadwyd Llyfrau Rheithwyr o 1696 i gadw cofnod o'r dynion hynny rhwng 21 - 70 oed sydd ag eiddo rhyddfraint, eiddo copiddaliad neu eiddo ar brydles yn werth mwy na £10 yr eiddo.  Roedd Rhestrau Rheithwyr (neu "Rhestrau Rhydd-ddeiliaid) yn cynnwys y wybodaeth graidd a gasglwyd gan swyddogion y plwyfi, a fyddai'n cael eu hychwanegu at Lyfrau'r Rheithwyr.

Mae Llyfrau Etholiadau yn dyddio o 1696, pan gellid galw ar swyddogion etholiadau am ffi, i baratoi adroddiad o'r pleidleiswyr a sut y gwnaethant bleidleisio.  Gallai unrhyw aelod o'r cyhoedd ofyn am hyn.  Cyflwynwyd y mesur hwn yn dilyn cwynion bod ambell i swyddog canlyniadau yn bleidiol gyda'u dyletswyddau.  Mewn rhai etholaethau, cyhoeddwyd y canlyniadau ar sail fasnachol.  Parhaodd yr arfer hwn tan Etholiad Cyffredinol 1868.   Ni chyflwynwyd pleidleisio cyfrinachol tan 1872.  (Ceir casgliadau da o Lyfrau Etholiadau yn Llyfrgell Guildhall, Y Llyfrgell Brydeinig, Sefydliad Ymchwil Hanesyddol, Ty'r Senedd, Prifysgol Llundain a Llyfrgell Bodleian yn Rhydychen.)

Ffurfiwyd Cofrestrau Etholiadol yn sgil Deddf Diwygio 1832.  Ar y pryd, roedd angen i bleidleisiwr fod ag eiddo er mwyn gallu pleidleisio.  Mae cofrestrau cynharach yn rhoi manylion enwau a chyfeiriadau etholwyr a'r eiddo oedd ganddynt.  (Dylid cofio er bod merched trideg oed wedi cael yr hawl i bleidleisio yn 1918, ni chawsant yr un hawliau pleidleisio â dynion tan Deddf Etholfraint Gyfartal 1928). 

Mae Swyddfa Archifau'r Sir yn cynnwys y Gibson Guides to Electoral Registers since 1832: a'r Burgess Rolls.  Gweler hefyd Poll Books c1696-1872: A Directory to holdings in Great Britain, a gyhoeddwyd gan Ffederasiwn Cymdeithasau Hanes Teulu.

To top

RSS