English

Partion Plant

Aqua Run

 

Parti Hwyl yn y Pwll

Awr gyfan o hwyl a gemau yn y pwll gyda rafftiau a pheli, gyda 1 awr i ddilyn ar gyfer eich te pen-blwydd.

 

Gallwch ychwanegu ardal wedi'i gwahanu i'r sawl nad yw'n nofio neu nofwyr gwan ar gais y llogwr. (Uchafswm o 12 o bobl yn yr ardal hon).

Rhaid i'r sawl nad yw'n nofio neu nofwyr gwan wisgo cymhorthion arnofio, a ddarperir gan y llogwr.

Gall un oedolyn oruchwylio un plentyn dan 3 oed neu iau a hyd at ddau blentyn 4 - 7 oed.

 

Parti Aqua-Run 

Rhowch dro ar y Morfil Ffyrnig, bwrw yn erbyn yr Esgimo a Dianc rhag yr Arth Wen!

 

Rhaid i ddefnyddwyr allu nofio 10 medr yn fedrus a heb gymhorthion arnofio i fynd ar yr Aqua-Run.

Rhaid goruchwylio plant dan 8 oed yn ofalus ar yr Aqua-Run gan oedolyn sy'n nofiwr medrus.

Mae'r pecyn hwn ar gyfer yr Aqua run yn unig, gydag awr yn yr ardal dderbynfa ar gyfer eich te Parti.

Gall un oedolyn oruchwylio dau blentyn 4 - 7 oed.

 

Parti Aqua Run + ardal wedi'i gwahanu

 

Holl hwyl y parti Aqua-run, gan gynnwys ardal wedi'u gwahanu gyda rafftiau a pheli. (Uchafswm o 12 o bobl yn yr ardal hon).

Rhaid i'r sawl nad yw'n nofio neu nofwyr gwan wisgo cymhorthion arnofio, a ddarperir gan y llogwr.

Gall un oedolyn oruchwylio un plentyn dan 3 oed neu iau a hyd at ddau blentyn 4 - 7 oed.

 

Parti Castell Gwynt (Gweithgaredd 1 awr a neuadd chwaraeon am 1 awr)

 

Un awr gyfan o hwyl bownsio ar y castell gydag awr i ddilyn yn y neuadd ar gyfer eich te Parti a gemau.

Bydd ein staff yn codi'r holl offer sydd eu hangen ar gyfer eich parti, ond noder fod archeb 2 awr yn cynnwys unrhyw amser yr ydych chi ei angen ar gyfer trefnu a chodi offer. (Bydd y gwynt yn cael ei dynnu allan o'r castell wedi awr).

 

Parti Castell Gwynt (Gweithgaredd 2 awr)

 

Dwy awr gyfan o hwyl bownsio ar y castell.

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys yr amser ar gyfer eich te Parti. Bydd ein staff yn codi'r holl offer sydd eu hangen ar gyfer eich parti, ond noder fod archeb 2 awr yn cynnwys unrhyw amser yr ydych chi ei angen ar gyfer trefnu a chodi offer.

 

· Rhaid goruchwylio pob plentyn.

· Mewn partion Castell Gwynt, rydym yn cynghori nad yw pob oedolyn yn goruchwylio mwy na wyth plentyn.

· Nodwch yr offer sydd ei angen arnoch yn eich parti wrth archebu e.e. goliau pêl-droed, cadeiriau, byrddau ac ati.

 

Castell Gwynt