Gydag ystod wych o gyfleusterau, gallai'r dewis o bartion pen-blwydd i blant sydd ar gael yng Nghanolfan Chwaraeon Llandrindod fod yr union beth yr ydych yn chwilio amdano. Mae bob parti yn parhau am un awr a 45 munud ar gyfer gemau a bwyd parti. Gellir gweini bwyd yn ein hystafell clwb (pan fydd ar gael) neu yn y Neuadd.
Â
Mae'r Parti Castell Gwynt bob tro yn ddewis poblogaidd i'r plentyn iau (8 oed ac iau) ac mae ar gael i'w logi ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Cynhelir y parti hwn yn y Brif Neuadd Chwaraeon. Caiff y sesiwn hwn ei oruchwylio'n llwyr gan aelod o staff ar bob adeg.
Â
Rhowch anrheg gwerth chweil i'ch plentyn gyda Pharti Pwll. Caiff yr holl bartion eu goruchwylio gan ein Hachubwyr Bywyd cymwys, felly gallwch ymlacio, cael hwyl a mwynhau eich hunan mewn amgylchedd diogel. Mae dewis o bartion Rafftiau (uchafswm o 25) neu gallwch logi'r llithren dolffin (8-14 oed Uchafswm o 15 Dim plant nad yw'n gallu nofio). Rhaid i blant dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol. Gofynnwch wrth y dderbynfa am y nifer fwyaf fesul pob gweithgaredd yn y pwll.
I'r plentyn hyn, beth am logi'r Brif Neuadd Chwaraeon lle gall plant ddewis o'r chwaraeon canlynol: pêl-droed, tennis bwrdd, tennis meddal, pêl-fasged ac ati.
Gallwch ddewis un gamp ar gyfer y parti cyfan neu rannu'r neuadd yn ddwy a chael cyfuniad.
Unwaith y byddwch yn gwybod pa barti yr ydych ei eisiau, cysylltwch â ni a byddwch ein staff yn eich tywys trwy'r drefn llogi.
Â
Â
Rydym yn edrych ymlaen at rannu pen-blwydd eich plentyn gyda chi.
Â