Mae Llyfrgell Y Drenewydd yn cynnal ambell i ddigwyddiad yr wythnos hon ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion.
Sesiynau rhoi cynnig ar gyfrifiadur: Sesiynau ar y We, dydd Iau 23 Mai rhwng 11am–12 pm, yn rhoi cyngor ar sut i sefydlu cyfrif e-bost a defnyddio safleoedd megis eBay ac Amazon. Bydd rhaid neilltuo lle ar y digwyddiad hwn.
Ar ddydd Gwener 24 Mai, bydd y llyfrgell yn cynnal sesiwn...
Bydd unrhyw aelod o lyfrgelloedd Powys sydd wedi colli’r cyfle i gael tocyn am ddim i weld darlith gan y cartwnydd, darlunydd ac awdur plant byd enwog, yn gallu gweld y ddarlith o’u llyfrgell leol.
Bydd Quentin Blake ym Mhafiliwn Barclays ar gyfer Darlith Llyfrgell Y Gelli “In and out of the Book – The uses of illustration”, ddydd Iau 23 Mai am 2.30 pm.
Mae’r ddarlith yn cael ei dangos yn fyw,...
Mae cynghorydd sir o’r Llwyni wedi’i benodi’n Gadeirydd newydd ar Gyngor Sir Powys.
Etholwyd y Cyngh John Brunt, sy’n cynrychioli ward Bugeildy yn Sir Faesyfed yn gadeirydd yng nghyfarfod blynyddol y cyngor Ddydd Iau 16 May, i olynu’r Cyngh Susan McNicholas, aelod lleol Ynyscedwyn.
Roedd y Cyngh Brunt, sydd wedi bod yn gynghorydd sir er Mehefin 2004, yn Gadeirydd Maesyfed yn ystod 2007/08....
Bydd cyfle i deuluoedd yn ardal Llandrindod i gymryd rhan mewn diwrnod hwyl yn chwarae tennis.
Clwb Tennis Llandrindod sy’n cynnal y diwrnod tennis ddydd Sadwrn 25 Mai rhwng 11am–4 pm.
Yn ystod y dydd bydd chwe sesiwn, sef:
- Dangos a chwarae tennis meddal (bore)
- Cystadleuaeth y rali hiraf (bore)
- Gemau dwbl gyda rhieni a phlant (bore)
- ‘Shootout’ ar y cwrs am wobrau (prynhawn)
-...
Bydd tref yng ngogledd Powys yn cynnal gwyl gerdded ddiwedd y mis, gyda chyfle i gerddwyr a heicwyr fwynhau’r dirwedd leol.
Cynhelir Gwyl Sabrina yn Llanidloes ddydd Sadwrn 25 Mai, sy’n denu cerddwyr a heicwyr i’r dirwedd brydferth leol, gan gynnwys argae a chronfa ddwr Llyn Clywedog.
Mae nifer o lwybrau cerdded o gwmpas Llanidloes sy’n boblogaidd gyda cherddwyr trwy’r flwyddyn, gan gynnwys...