powys.gov.uk: Latest News
Llyfrgelloedd Powys i ddangos darlith Quentin Blake.
Bydd unrhyw aelod o lyfrgelloedd Powys sydd wedi colli’r cyfle i gael tocyn am ddim i weld darlith gan y cartwnydd, darlunydd ac awdur plant byd enwog, yn gallu gweld y ddarlith o’u llyfrgell leol.
Bydd Quentin Blake ym Mhafiliwn Barclays ar gyfer Darlith Llyfrgell Y Gelli “In and out of the Book – The uses of illustration”, ddydd Iau 23 Mai am 2.30 pm.
Mae’r ddarlith yn cael ei  dangos yn fyw, felly os oes unrhyw aelod o’r llyfrgell wedi methu cael tocyn, bydd cyfle i’w gwylio ar gyfrifiadur yn eu llyfrgell leol.  Ond cofiwch ddod â’ch clustffonau eich hun.
Mae Blake y  darlunydd a’r awdur a fu’n gweithio am gyfnod hir gyda Roald Dahl, ynghyd â’i waith ei hun sef Clown, Zagazoo, Mrs Armitage, Mister Magnolia a’i astudiaeth ddiweddar ‘Beyond the Page’ wedi cadarnhau ei le fel un o artistiaid gorau Prydain.
Mae ei ddarlith yn rhan o Wyl y Gelli sy’n digwydd dros ddeng diwrnod ac yn cynnwys rhaglen lawn o ddadleuon a sgyrsiau gyda beirdd a gwyddonwyr, nofelwyr a haneswyr, artistiaid a garddwyr, comediwyr a cherddorion, sêr byd y ffilm a gwleidyddion.  Mae’r wyl yn cynnwys siaradwyr i oedolion a phlant, a bydd ymlaen o ddydd Iau 23 Mai tan ddydd Sul 2 Mehefin.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch llyfrgell leol.
Cynghorydd o’r Llwyni yn Gadeirydd newydd ar Gyngor Sir Powys
Mae cynghorydd sir o’r Llwyni wedi’i benodi’n Gadeirydd newydd ar Gyngor Sir Powys.
Etholwyd y Cyngh John Brunt, sy’n cynrychioli ward Bugeildy yn Sir Faesyfed yn gadeirydd yng nghyfarfod blynyddol y cyngor Ddydd Iau 16 May, i olynu’r Cyngh Susan McNicholas, aelod lleol Ynyscedwyn.
Roedd y Cyngh Brunt, sydd wedi bod yn gynghorydd sir er Mehefin 2004, yn Gadeirydd Maesyfed yn ystod 2007/08.
“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n Gadeirydd newydd Cyngor Sir Powys. Yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd rwy’n benderfynol o hybu Powys ar hyd a lled Cymru,” meddai’r Cyngh Brunt.
“Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA) yw’r elusen rwyf wedi dewis ei chefnogi tra byddaf yn Gadeirydd y Cyngor. Maen nhw’n darparu cymorth gydol oes i’n Lluoedd Arfog a’u teuluoedd.”
Yn yr un cyfarfod etholwyd y Cyngh Roche Davies, aelod lleol Llandinam, yn Is-gadeirydd a’r Cyngh Paul Ashton, aelod lleol ward y Santes Fair (Aberhonddu), yn Is-gadeirydd Cynorthwyol.
Diwrnod Tennis i’r teulu yn Llandrindod.
Bydd cyfle i deuluoedd yn ardal Llandrindod i gymryd rhan mewn diwrnod hwyl yn chwarae tennis.
Clwb Tennis Llandrindod sy’n cynnal y diwrnod tennis ddydd Sadwrn 25 Mai rhwng 11am–4 pm.
Yn ystod y dydd bydd chwe sesiwn, sef:
- Dangos a chwarae tennis meddal (bore)
- Cystadleuaeth y rali hiraf (bore)
- Gemau dwbl gyda rhieni a phlant (bore)
- ‘Shootout’ ar y cwrs am wobrau (prynhawn)
- Clinig i wella’ch ergydion (prynhawn)
- Sesiwn cardio tennis (prynhawn)
Bydd y cyfan am ddim ond bydd rhaid i chi archebu lle ar y sesiynau hyn o flaen llaw.  Bydd lluniaeth ysgafn a raffl ar gael drwy’r dydd yn y clwb.
I gadw lle ar y sesiynau hyn, cysylltwch â Matt James, Swyddog Datblygu Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol, Cyngor Sir Powys, (De) ar 01874 612335 neu matthew.james1@powys.gov.uk
Cerdded Mynyddoedd Cambria gyda Gwyl Sabrina.
Bydd tref yng ngogledd Powys yn cynnal gwyl gerdded ddiwedd y mis, gyda chyfle i gerddwyr a heicwyr fwynhau’r dirwedd leol.
Cynhelir Gwyl Sabrina yn Llanidloes ddydd Sadwrn 25 Mai, sy’n denu cerddwyr a heicwyr i’r dirwedd brydferth leol, gan gynnwys argae a chronfa ddwr Llyn Clywedog.
Mae nifer o lwybrau cerdded o gwmpas Llanidloes sy’n boblogaidd gyda cherddwyr trwy’r flwyddyn, gan gynnwys Llwybr Clawdd Offa a Ffordd Glyndwr.  Llanidloes hefyd yw’r dref gyntaf ar Afon Hafren, yr afon hiraf yn y DG, sy’n dechrau naw milltir i’r gorllewin o Lanidloes ym man uchaf Mynyddoedd Cambria.
Sefydlwyd yr Wyl yn 2006, ac mae taith gerdded Sarn Sabrina’n cynnwys taith 25 milltir mewn cylch i, ac o Lanidloes i darddiad Afon Hafren.  Ers hynny, ychwanegwyd ‘Semi Sabrina’, sy’n daith 12 milltir.   Gallwch fanteisio ar y naill ddewis - un ai fel her gerdded undydd, neu dros rai diwrnodau i fwynhau’r golygfeydd godidog.
Mae Gwyl Sabrina’n arwain cerddwyr ar daith o Lyn Clywedog, i fyny i ymylon Coedwig Hafren a Fferm Cwm Biga.  Yna bydd yn dringo i lethrau Pen Pumlumon, cyn cyrraedd tarddiad Afon Hafren 620 m uwchben lefel y môr.
Seiliwyd yr Wyl ar chwedl Geltaidd Sabrina, nymff o’r dwr a ddewisodd, gyda’i chwiorydd, i ddilyn llwybrau gwahanol i’r môr.  Aeth Ystwyth i’r gorllewin, a Varga (Gwy) i’r de.  Ond roedd Sabrina’n hoffi’r tir, a dewisodd lwybr hir a throellog tua’r dwyrain.
Am ragor o wybodaeth am yr wyl, ffoniwch 01686 414893 neu ewch i’r wefan sef www.llanidloes.com
I gael gwybodaeth am yr wyl a gweithgareddau eraill, cysylltwch â Chanolfan Croeso Aberhonddu ar 01874 622485 neu brectic@powys.gov.uk
Canolbarth Cymru’n croesawu’r sêr i Wyl y Gelli
Mae un o brif ddigwyddiadau Canolbarth Cymru’n paratoi i groesawu’r sêr  i wyl lenyddol byd enwog Y Gelli Gandryll.
O ddydd Iau 23 Mai tan ddydd Sul 2 Mehefin, bydd Gwyl y Gelli’n cyflwyno amrywiaeth eang o siaradwyr a pherfformwyr o bob cwr o’r byd.  Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan eleni fydd y newyddiadurwr ymchwilio, Carl Bernstein, y nofelydd Twrcaidd Elif Shafak, y canwr gwerin a’r cyfansoddwr Christy Moore a’r comedïwr Dara O’Brien.
Gyda rhywbeth at ddant pawb, mae’r wyl hefyd am groesawu cynulleidfa iau gyda’r ‘Hay Fever Courtyard’ ac eleni bydd y storïwyr Helen Peters, Mei Matsouka a Sarah McIntyre yno i’w diddanu.  Ewch i’r wefan i weld manylion amser stori a gweithgareddau am ddim.
Am ragor o wybodaeth am yr wyl, gan gynnwys y rhaglen, tocynnau a llety, ewch i’r wefan sef www.hayfestival.com www.hayfestival.com
I gael gwybodaeth am yr wyl a gweithgareddau eraill, cysylltwch â Chanolfan Croeso Aberhonddu ar 01874 622485 neu brectic@powys.gov.uk
Penwythnos poblogaidd y tyddynwyr i groesawu’r Gwanwyn yn Llanelwedd.
Bydd penwythnos poblogaidd y tyddynwyr yn dychwelyd i Faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd y penwythnos hwn.
Sioe’r Tyddynwyr yw sioe gyntaf y flwyddyn i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a bydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn a dydd Sul 18 – 19 Mai.
Gwyl y Gwanwyn yw’r enw newydd amdano erbyn hyn, a gyda bron i 25,000 o ymwelwyr, mae’n un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yng nghalendr y Gymdeithas.  Bydd amrywiaeth eang o stondinau, arddangosfeydd ac arddangoswyr yn yr wyl - i gyd yn dangos agweddau ar gadw tyddynnod a byw’n gynaliadwy.
Bydd cryn bwyslais ar yr amgylchedd a bydd yn cynnwys Arddangosfa Byw’n Gynaliadwy Gorwelion Gwyrdd a gyflwynwyd yn 2006.  Ynghyd ag arddangoswyr, bydd yn cynnig gweithdai i deuluoedd ac adloniant ‘gwyrdd’ – i gyd yn hybu ac yn annog ffordd o fyw mwy cynaliadwy.
Ymhlith yr atyniadau eraill yn y sioe fydd da byw, gan ganolbwyntio ar fridiau prin, yn ogystal â Marchnad y Ffermwyr sy’n dangos cynnyrch o Gymru a’r Gororau.  Bydd y Neuadd Fwyd modern yn gyfle i flasu cynnyrch arbennig o gig oen, cig dafad, cig eidion, baedd gwyllt, cig carw, gêm, caws, gwinoedd, seidr a hufen ia cartref.
Am ragor o wybodaeth am y gweithgareddau hyn a gweithgareddau eraill yng Nghanolbarth Cymru, cysylltwch â Chanolfan Croeso Aberhonddu ar 01874 622485 neu brectic@powys.gov.uk
Rhaglen teithiau cerdded wedi’u tywys yn ôl
Mae rhaglen boblogaidd o deithiau cerdded wedi’u tywys sy’n rhoi’r cyfle i drigolion Powys ddarganfod cefn gwlad godidog y sir yn dychwelyd y mis hwn.
Mae rhaglen Teithiau i’ch Denu Cyngor Sir Powys yn ôl ar gyfer 2013 gydag wyth taith gerdded yn cael eu cynnal eleni.  Mae’r teithiau hyn drwy gefn gwlad prydferth Powys yn amrywio o filltir i saith milltir mewn hyd.  Bydd pob un o’r teithiau yn cael eu harwain gan arweinwyr cyfeillgar a gwybodus.
Trefnwyd y teithiau gan dîm Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor a dylent fod o ddiddordeb i bob oed.
Mae taflen sy’n rhoi manylion a dyddiadau’r teithiau sy’n cael eu cynnal eleni ar gael o ganolfannau croeso, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden ar draws y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Graham Brown, Aelod y Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Mae gan Bowys rhannau o gefn gwlad fwyaf godidog Prydain ac mae’r teithiau cerdded hyn yn ffordd wych i drigolion ac ymwelwyr weld yn union beth sydd gan ein sir i’w gynnig.
“Mae ein rhaglen sydd wedi ei hen sefydlu yn ffordd wych o gael awyr iach ac ymarfer corff ac hefyd i ddysgu am ein cefn gwlad lleol.”
Mae’r ddwy daith gerdded cyntaf ar ddiwedd mis Mai.  Bydd y daith gyntaf, 'Noson O Haf ar y Comin' yn Nolanog, Gogledd Powys, ddydd Mercher 29 Mai.  Dyma gyfle i ddarganfod Comin Dolanog ac i ddysgu am y bywyd gwyllt, yr hanes a'r defnydd a wneir o'r lle unigryw hwn heddiw.  Mae’r daith gerdded hon yn un sydd wedi’i graddio fel un cymedrol.
Taith gerdded i’r teulu yw’r ‘Taith Gelfyddydol i’r Bryniau’.  Bydd y daith hon yn crwydro’r bryniau uwchben Canolfan Grefft Erwyd lle gall cerddwyr creu eu collage tirlun eu hunain!  Bydd y daith gymedrol hon yn cael ei chynnal ddydd Gwener 31 Mai ac mae wedi’i threfnu ar gyfer plant rhwng 7-12 oed.  Mae’n rhaid iddynt fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad.
Ychydig o lefydd sydd ar gael ar bob daith gerdded, felly dylech gadw eich lle’n gynnar i osgoi siom.  Gallwch gadw lle ar daith gerdded neu ofyn am lyfryn trwy ffonio 01597 827567.
I wneud yn siwr eich bod yn mwynhau eich taith gerdded, dewch â dillad gwrth-ddwr, esgidiau cerdded cyfforddus, eli haul a diod a bwyd gyda chi.  Mae croeso i gwn ar rai o’r teithiau cerdded ond gwnewch yn siwr eich bod yn gofyn yn gyntaf.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.powys.gov.uk/guidedwalks
Cymeradwyo Cynlluniau Radical
Mae cabinet Cyngor Sir Powys wedi cymeradwyo cynlluniau radical i wella’r ddarpariaeth addysg uwchradd yn nwyrain Sir Faesyfed.
Bu’r cabinet yn cyfarfod yn Llandrindod heddiw (Dydd Mawrth) a chytunwyd i roi cychwyn i’r broses ymgynghori ar gau Ysgol Uwchradd John Beddoes  yn Llanandras ac ehangu Ysgol Uwchradd Y Drenewydd.
Fel ysgol wedi’i hymestyn, bydd Ysgol Uwchradd Y Drenewydd yn gweithredu fel sefydliad ar ddau safle, a bydd darpariaeth i ddisgyblion 11-16 oed yn parhau i gael ei chynnig ar gampws Llanandras.
Cytunwyd ar y cynlluniau mewn ymateb i lythyr oddi wrth y Gweinidog Addysg Leighton Andrews a oedd yn awgrymu y dylai Ysgol Uwchradd John Beddoes gau oherwydd y cyfleoedd addysgol gwael a oedd ar gael yno i bobl ifanc yr ardal.
Ysgol John Beddoes oedd yr ysgol uwchradd gyntaf yn y sir i Estyn ei gosod mewn Mesurau Arbennig y llynedd pan farnwyd bod ei pherfformiad a’i gobeithion am wella yn anfoddhaol.
Ysgol Uwchradd Y Drenewydd yw’r gyntaf yn y sir i ddod yn Ysgol sy’n Ymarferydd Arweiniol, sef menter Llywodraeth Cymru sy’n galluogi ysgolion gorau’r wlad o ran eu perfformiad i ddarparu cymorth i ysgolion eraill.
Dywedodd Aelod Portffolio Dysgu a Hamdden y Cabinet, y Cynghorydd Myfanwy Alexander; “Rydym yn ymroddedig i ddarparu’r cyfleoedd dysgu gorau bosibl i ddysgwyr dwyrain Sir Faesyfed er mwyn iddyn nhw allu cyrraedd eu potensial llawn. Bydd y penderfyniad heddiw yn darparu ateb cynaliadwy i’r ardal ac yn dod â gwelliannau buan i’r gwasanaethau addysg.
“Mae Ysgol Uwchradd y Drenewydd yn un o ysgolion uwchradd arweiniol y rhanbarth a thrwy ddefnyddio’i harbenigedd a’i harweiniad, gallwn gael effaith fuddiol ar unwaith fydd o fantais i’n dysgwyr. Ateb Powys i broblem Powys yw hyn.”
Bydd y cyfnod ymgynghori ffurfiol ar y cynlluniau’n dechrau ddydd Gwener (Mai 3) ac yn para hyd 2 Mehefin. Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys cyfarfodydd i ddysgwyr, staff, llywodraethwyr a’r cyhoedd yn y ddwy ysgol uwchradd yn ystod y mis, yn ogystal ag ymgynghoriad ar-lein trwy wefan y cyngor sir.
Disgwylir y bydd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn cael ei gynnal yn Ysgol Uwchradd John Beddoes ddydd Mawrth 14 Mai, gydag ail gyfarfod yn Ysgol Uwchradd Y Drenewydd ddydd Iau 16 Mai; bydd y ddau gyfarfod yn dechrau am 7pm.
Disgyblion yn codi arian trwy wisgo’u hesgidiau chwaraeon
Mae disgyblion ysgol uwchradd yng Ngogledd Powys wedi codi dros £460 i elusen a’u hadran addysg gorfforol ar ôl cymryd rhan mewn cynllun cenedlaethol sy’n hybu celf, ffordd iach o fyw a champ enwog.
Cymerodd disgyblion Ysgol Uwchradd y Trallwng ran yn y ‘Diwrnod Gwisgo Esgidiau Chwaraeon’ a chodi £469.  Mae’r cynllun yn hybu chwaraeon, dulliau iach o fyw a Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow y flwyddyn nesaf.
Cynhaliwyd Diwrnod Gwisgo Esgidiau Chwaraeon ddydd Llun 11 Mawrth, a oedd hefyd yn Ddiwrnod y Gymanwlad. Caniatawyd i’r disgyblion wisgo’u hesgidiau chwaraeon gyda’u gwisg ysgol arferol y diwrnod hwnnw. Talodd pob disgybl £1 i gymryd rhan yn yr achlysur, a bydd yr arian a godir yn cael ei rannu rhwng Sefydliad Prydeinig y Galon ac adran Addysg Gorfforol yr ysgol.
Trefnwyd yr achlysur gan Lysgenhadon Ifanc Aur yr ysgol, Rhys Phillips ac Alex Cawthra, a’r Llysgenhadon Arian Ewan Ellis ac Emilie Gwilt.  Diolch i’w hymdrechion a’u parodrwydd i roi o’u hamser rhydd, codwyd swm ardderchog ar gyfer yr achosion rhagorol hyn.
Dewiswyd y llysgenhadon i gynrychioli’r ysgol a rhoddwyd y dasg iddynt o hybu ymarfer ac annog eu cymheiriaid i ddod yn fwy gweithgar yn yr ysgol a’r gymuned leol.
Cynlluniau Radical
Bydd cynlluniau radical i wella’r ddarpariaeth addysg uwchradd yn nwyrain Sir Faesyfed yn cael eu hystyried gan gabinet Cyngor Sir Powys ddydd Mawrth (30 Ebrill).
Gallai’r cynlluniau arfaethedig weld addysg yn parhau yn Llanandras.  Mae Leighton Andrews, Gweinidog Addysg Cymru wedi ysgrifennu at y cyngor sir yn awgrymu y dylid cau Ysgol Uwchradd John Beddoes oherwydd y cyfleoedd addysgol gwael sy’n cael eu darparu i bobl ifanc yr ardal.
Ysgol John Beddoes oedd yr ysgol uwchradd gyntaf yn y sir a rhoddwyd mewn Mesurau Arbennig gan Arolygwyr Estyn y llynedd pan feirniadwyd y perfformiad a’r rhagolygon ar gyfer gwelliant yn anfoddhaol.
I atal y cam mawr o gau’r ysgol mae Cyngor Sir Powys yn cynnig ateb creadigol a chyfrifol a fydd yn cael ei ystyried gan y cabinet.
Os caiff y cynnig ei gymeradwyo, bydd Ysgol John Beddoes yn cau’n ffurfiol gyda’r safle yn ail-agor fel rhan o Ysgol Uwchradd y Drenewydd – un o’r ysgolion uwchradd sy’n perfformio orau yn y sir.
Yn ddiweddar, enwyd Ysgol Uwchradd y Drenewydd fel Ysgol Ymarferydd Arweiniol cyntaf y sir, menter gan Lywodraeth Cymru sy’n cael yr ysgolion sy’n perfformio orau yn y wlad i ddarparu cymorth i ysgolion eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, yr Aelod Cabinet ar gyfer Dysgu a Hamdden;  “Rydym yn benderfynol i roi’r cyfleoedd dysgu gorau posibl i bob un o’n bobl ifanc ac rydym yn barod i gymryd penderfyniadau anodd os oes angen i wneud yn siwr bod hynny’n digwydd.
“Mae’n bryder mawr pan fydd angen mesurau arbennig ar unrhyw ysgol ond pan mae’r ysgol honno’n ysgol uwchradd sy’n darparu elfennau hanfodol megis TGAU a Lefel A i bobl ifanc mae’n hanfodol bod penderfyniadau pendant yn cael eu gwneud.
“Trwy gau Ysgol Uwchradd John Beddoes a chynnwys campws Llanandras yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd - un o ddim ond dwy ysgol Band Un yn y sir - rydym yn anfon neges glir i ddysgwyr, rhieni a’r gymuned gyfan ein bod am gymryd penderfyniadau pendant a radical i roi’r addysg y mae dysgwyr lleol yn eu haeddu.”
“Bydd Ysgol Uwchradd y Drenewydd yn ysgol ar ddau safle ond yn cael ei hariannu fel un ysgol gydag un corff llywodraethu, un pennaeth a thîm arweiniol a fydd yn gweithredu ar draws y ddau safle,” ychwanegodd.
Os bydd yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo gan y cabinet ddydd Mawrth, bydd y cynigion yn debygol o fynd i ymgynghoriad cyhoeddus mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn y ddwy ysgol y mis nesaf.