A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Bydd grwp o ddawnswyr o Bowys yn mynd ar y llwyfan yng Nghanolfan Southbank yn Llundain y penwythnos nesaf wedi iddynt gael eu dewis i gymryd rhan yng ngwyl dawns ieuenctid mwyaf eleni.
Bydd wyth o ddawnswyr benywaidd rhwng 11 a 17 oed yn cynrychioli Cwmni Dawns Ieuenctid Powys (CDIP) gan berfformio darn saith munud o hyd yn U.Dance 2012, sy’n arddangos rhai o’r grwpiau dawns ieuenctid gorau o bob cwr o Brydain.
Yn ôl ym mis Chwefror, fe wnaeth y grwp gymryd rhan mewn digwyddiad rhanbarthol yn Abertawe, ac roeddynt yn un o ddau gwmni a wahoddwyd i gynrychioli Cymru yn yr wyl genedlaethol, a gynhelir rhwng 13 a 15 Gorffennaf.
Mae CDIP yn perfformio ar y dydd Sul yn y Royal Festival Hall, sydd ag oddeutu 2,500 o seddi a disgwylir tyrfa fawr i gefnogi’r merched, a fydd yn treulio’r dyddiau eraill yn cymryd rhan mewn gweithdai dawns a gynhelir gan bobl broffesiynol.
Dywedodd Myfanwy Alexander, Aelod o’r Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Ddysgu a Hamdden yng Nghyngor Sir Powys: “Mae dawns yn prysur ddod yn gryfder diwylliannol ar gyfer cymunedau Powys ac mae CDIP yn dangos y datblygiad hwn ar lwyfan cenedlaethol.
“Mae cael dawnswyr Powys ar lwyfan y Royal Festival Hall mewn digwyddiad mor fawreddog yn codi proffil dawns ac mae’r grwp yn haeddu clod mawr am eu cyrhaeddiad."