Mae rhan newydd o’r llwybr cerdded a seiclo sy’n rhydd o draffig rhwng Aber-miwl ac Aberriw wedi cael ei agor yn swyddogol.
Agorwyd y rhan o’r llwybr newydd 1.5 cilomedr sydd werth £270,000 yr wythnos diwethaf (dydd Mercher 20 Mehefin) ger Aberriw. Mae’r rhan newydd, sydd eisoes yn profi i fod yn boblogaidd, yn ffurfio rhan o’r nod cyffredinol i gael llwybr o’r Trallwng i’r Drenewydd fel dewis sy'n rhydd o draffig i’r briffordd brysur.
Darparodd rhaglen Llwybrau Diogel yn y Gymuned Llywodraeth Cymru £220,000 o’r nawdd wedi i Gyngor Sir Powys wneud cais llwyddiannus am yr arian tra gwnaeth Croeso Cymru ddarparu £50,000 ar gyfer y prosiect.
Mae cownter seiclo a cherddwyr awtomatig wedi’i osod fel rhan o’r prosiect a’r arwyddion cynnar yw bod nifer y bobl sy’n cerdded a seiclo ar hyd y llwybr yn uchel.
Dywedodd y Cyng. Barry Thomas, Aelod o’r Cabinet gyda chyfrifoldeb dros briffyrdd: “Rwyf wrth fy modd fod nifer uchel o bobl eisoes wedi cerdded neu seiclo ar hyd y llwybr hwn. Mae’n gyfleuster gwych sy’n cynnig pob math o gyfleoedd gan gynnwys gwneud teithiau hamdden neu ddefnyddio’r llwybr i deithio i’r Drenewydd ar gyfer gwaith neu siopa.
“Mae’r prosiect hefyd wedi bod yn gyfle da i’r cyngor barhau i weithio mewn partneriaeth gyda Dyfrffyrdd Prydain i wireddu’r cam hwn o’r llwybr. Mae datblygu llwybrau seiclo led led Powys yn mynd yn ei flaen yn dda a boddhaol yw gweld cymaint o lwybrau seiclo newydd yn agor ym mhob ardal o fewn y sir.”
Dywedodd Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Cymru gyda chyfrifoldeb dros Gludiant: “Rydym yn ymroddedig tuag at weld rhwydwaith cludiant gwirioneddol gynaladwy yng Nghymru a fydd yn annog ffyrdd mwy iachus o fyw gyda rhagor o bobl yn cerdded a seiclo.
“Yn ychwanegol at lansio Papur Gwyn Mesur Teithio Gweithgar yn ddiweddar, mae agor y llwybr cerdded a seiclo newydd rhwng Aber-miwl ac Aberriw, gyda chymorth nawdd Llywodraeth Cymru, yn adlewyrchiad o’r ymrwymiad uchelgeisiol hwn ac yn gam arall tuag at y cyfeiriad o wneud cerdded a seiclo yn ffordd arferol a mwyaf naturiol o wneud teithiau byr pob dydd.”
Dywedodd Jim Forrester, Cadeirydd, Partneriaeth Dyfrffyrdd Gogledd Cymru a’r Gororau: “Bydd y gwelliannau i’r llwybr halio yn galluogi rhagor o bobl i fwynhau camlas hyfryd Maldwyn ac rydym yn ddiolchgar am gymorth gan ein partneriaid a noddwyr wrth helpu i gyflawni ein dyhead i ddarparu llwybr gwell rhwng Y Trallwng a’r Drenewydd.”