A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Ddiweddaraf

19.06.12 09:07 Age: 335 days

Gemau X i gyrraedd strydoedd Llanidloes

Yn union yng nghanol Llanidloes, bydd Stryd y Dderwen Fawr yn newid i fod yn arena campau eithafol rhwng 4 – 8 pm nos Sadwrn 23 Mehefin ar gyfer y Gemau X.

Prif nod y digwyddiad hwn fydd trefnu gweithgareddau am ddim i bobl ifanc sydd ddim yn cymryd rhan mewn campau traddodiadol, ond sydd am roi cynnig ar gampau newydd megis gymnasteg rydd, sgrialu a chodi hwyl.

Ymhlith y gweithgareddau eraill fydd saethyddiaeth, pêl-fasged stryd a chadair olwyn, sbrintio stryd, dawnsio stryd a barbiciw, gyda beicio mynydd yn ‘Kennel Fields’ a barcuto pwer yn Ysgol Uwchradd Llanidloes.

Hefyd bydd arddangosfa stryd gan dîm campau beicio mynydd pennaf y DU, Savage Skills, sy’n arbenigo mewn llwyfannu sioeau rhyngweithiol i syfrdanu cynulleidfaoedd o bob oedran.

Rhaid i blant gofrestru o flaen llaw trwy’r Gwasanaeth ieuenctid, 5 x 60 neu grwp CFFI.


RSS