A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Ddiweddaraf

23.05.12 15:51 Age: 362 days

Cyfarfodydd cludiant ysgol

Bydd rhieni plant ym Mhowys a fydd yn cael eu heffeithio gan drefniadau cludiant ysgol newydd yn cael cyfle arall i gael dweud eu dweud mewn cyfres o gyfarfodydd yn ystod y misoedd sydd i ddod.

Fe wnaeth Bwrdd (ar y pryd) Cyngor Sir Powys gymeradwyo argymhelliad yn flaenorol i gynnal ymgynghoriad ar y polisi cludiant sy’n nodi - lle bo disgyblion yn gymwys - y dylid darparu cludiant am ddim iddynt i’w hysgol agosaf sy’n cynnig addysg trwy gyfrwng yr iaith o’u dewis.

Mae’r polisi newydd yn cynnig y dylai plant sydd ar hyn o bryd yn derbyn cludiant a ddarperir gan yr awdurdod ond gael eu heffeithio gan y rheolau newydd:

- ar ddiwedd y cyfnod cynradd i ddisgyblion 4 – 10 oed

- ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4 (oedran ysgol statudol) i ddisgyblion 11 – 15 oed

- ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 5 i ddisgyblion 16 oed a hyn.

Tan y byddent yn cyrraedd y cyfnodau pontio hyn neu’n symud cartref, byddai’r un trefniadau cludiant yn cael eu darparu i’r bobl ifanc ag y maent yn eu derbyn nawr.

Esboniodd Douglas Wilson, Pennaeth y Gwasanaeth Ysgolion y rheswm dros y newidiadau: “Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) sy’n gofyn i gynghorau ddarparu cludiant am ddim i bob disgybl sy’n byw mwy na dwy filltir o’u hysgol agosaf. Oherwydd natur wledig Powys, mae gennym nifer sylweddol o ddisgyblion sy’n derbyn cludiant. Fodd bynnag, mae’r ffordd y mae trefniadau teithio wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd wedi arwain at nifer arwyddocaol o anghysonderau."

"Gan fod costau cludiant yn rhan sylweddol o gyllideb ein cyngor a’n cyllideb addysg, mae’n hanfodol fod gennym bolisi sy’n deg i bob disgybl ond hefyd yn fforddiadwy. Bydd y polisi newydd yn cyflawni hyn. O ganlyniad i ymgynghoriad blaenorol, rydym wedi cyflwyno cyfnodau pontio fel na fyddai’n rhaid i rieni na disgyblion wneud unrhyw benderfyniadau ran o’r ffordd trwy’r cyfnodau allweddol,” ychwanegodd.

Mae’r cyfarfodydd, sy’n agored i rieni plant cyn oed ysgol, cynradd, ac uwchradd i’w cynnal fel a ganlyn:

- Dydd Iau 24 Mai yn Ysgol Uwchradd Gwernyfed;

- Dydd Mawrth 12 Mehefin yn Ysgol Uwchradd John Beddoes;

- Dydd Iau 14 Mehefin yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu;

- Dydd Llun 18 Mehefin yn Ysgol Uwchradd Crughywel;

- Dydd Iau 21 Mehefin yn Ysgol Uwchradd Y Drenewydd;

- Dydd Mawrth 26 Mehefin yn Ysgol Uwchradd Y Trallwng;

- Dydd Iau 28 Mehefin yn Ysgol Bro Ddyfi.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cychwyn am 6.30pm. Ynghyd â chyhoeddi’r cyfarfodydd yn y cyfryngau, mae’r cyngor yn ysgrifennu at holl rieni’r disgyblion, trwy’r ysgolion lleol, yn eu cynghori am yr amseroedd a’r lleoliadau.

Bydd gan bobl tan y 28 Gorffennaf wedi hynny i gael dweud eu dweud ar y polisi arfaethedig. Gallant leisio eu pryderon trwy anfon e-bost at schoolmodernisation@powys.gov.uk neu trwy ysgrifennu at y tîm Moderneiddio Ysgolion yn Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG.

Cynhaliwyd rownd gychwynnol o gyfarfodydd ymgynghori cyn ei gymeradwyo’n gychwynnol ym mis Medi 2010 a arweiniodd at nifer o ddiwygiadau, gan gynnwys y cyfnodau pontio. Mae’r cyngor yn edrych i gyflwyno’r polisi newydd o fis Medi 2013.


RSS